Cyfnod Boris Johnson fel prif weinidog ar ben
Cyfnod Boris Johnson fel prif weinidog ar ben
Mae cyfnod Boris Johnson fel prif weinidog ar ben, wedi iddo gwrdd â'r Frenhines yn Balmoral i ymddiswyddo'n swyddogol.
Yn dilyn ymweliad Mr Johnson â'r Frenhines ddydd Mawrth, cafodd Liz Truss ei phenodi'n swyddogol fel prif weinidog.
Wrth roi ei araith ffarwel olaf tu fas i Rif 10 Downing Street, fe wnaeth Mr Johnson annog y blaid Geidwadol i daflu ei chefnogaeth tu ôl i Liz Truss.
Ychwanegodd y dylai'r blaid rhoi gwleidyddiaeth i un ochr yn ystod cyfnod “anodd i’r economi.”
“Mae’n amser caled i deuluoedd ar draws y wlad. Fe allwn ni ac fe nawn ni ddod drwyddi yn gryfach yr ochr arall."
"Ond dwi’n dweud wrth fy nghyd Geidwadwyr mae’n amser i wleidyddiaeth ddod i ben. Mae’n amser i ni gyd gefnogi Liz Truss, ei thîm a’i rhaglen lywodraethu a chyflawni ar gyfer pobl y wlad yma oherwydd dyma mae pobl y wlad yma eisiau, dyna maen nhw angen a dyna maen nhw’n haeddu.”
Dywedodd y bydd Truss a’r llywodraeth yn gwneud “popeth y gallwn ni i wneud yn siŵr bod pobl yn dod trwy'r argyfwng hwn”.
Soniodd am yr hyn roedd yn credu fod y llywodraeth wedi llwyddo i gyflawni dan ei arweinyddiaeth gan gynnwys Brexit, cefnogi Wcráin yn ei rhyfel yn erbyn Rwsia a rhaglen frechu Covid.