Liz Truss bellach yn Brif Weinidog y DU
Mae Liz Truss wedi'i phenodi'n Brif Weinidog y DU yn dilyn ymweliad â'r Frenhines yn Balmoral.
Dyma'r tro cyntaf i'r Frenhines a phrif weinidog newydd beidio â chwrdd ym Mhalas Buckingham. Mae'r lleoliad wedi newid oherwydd cyflwr iechyd y Frenhines.
Mae Liz Truss wedi teithio dros 500 milltir i Gastell Balmoral yn yr Alban, a hynny mewn awyren.
Yn gynharach, fe wnaeth ei rhagflaenydd, Boris Johnson, gwrdd â'r Frenhines er mwyn ymddiswyddo'n swyddogol.
Cafodd Ms Truss ei gwahodd i ystafell groeso Balmoral lle gofynnodd y Frenhines iddi ffurfio llywodraeth a dod yn Brif Weinidog Y Deyrnas Unedig.
Mae Liz Truss bellach yn teithio nôl i Lundain er mwyn rhoi araith tu fas i rif 10.
Fe fydd y prif weinidog newydd wedyn yn mynd ati i benodi ei chabinet newydd.
Prif her Ms Truss fydd ceisio datrys y cynnydd aruthrol yng nghostau ynni sydd yn effeithio ar filiynau o bobl ar hyd a lled Prydain Fawr. Bydd disgwyl iddi gyfeirio at hynny yn ei haraith.
Yna, bydd Liz Truss yn cwblhau'r gwaith o ffurfio ei chabinet, cyn iddynt gwrdd am y tro cyntaf ddydd Mercher.