Newyddion S4C

Liz Truss fydd Prif Weinidog nesaf y DU

Liz Truss / Llywodraeth y DU

Liz Truss fydd Prif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig, wedi i ganlyniad etholiad arweinyddiaeth y blaid Geidwadol gael ei gyhoeddi ddydd Llun.

Bydd hi'n ymgymryd â'r rôl yn swyddogol ddydd Mawrth.

Yn dilyn misoedd o ymgyrchu, daeth cadarnhad ddydd Llun bod Ms Truss wedi derbyn 81,326 o bleidleisiau, tra gwnaeth ei gwrthwynebydd, y cyn-Ganghellor Rishi Sunak, dderbyn 60,399.

Fe gafodd canlyniad y bleidlais, oedd ar agor i aelodau'r blaid Geidwadol yn unig, ei gyhoeddi toc wedi 12:30. 

Daeth Liz Truss a Rishi Sunak i'r brig allan o wyth o ymgeiswyr yn dilyn sawl rownd o bleidleisio ymysg aelodaeth y Ceidwadwyr yn San Steffan. 

Gyda'r argyfwng costau byw yn parhau a disgwyl i chwyddiant gynyddu eto, bydd gan y prif weinidog newydd benderfyniadau anodd ei gwneud o'r diwrnod cyntaf.

Daw hyn yn dilyn sibrydion ddydd Llun bod Ms Truss yn ystyried rhewi prisiau ynni yn ogystal â chyhoeddi cynllun i ddelio â'r argyfwng ynni o fewn wythnos i gael ei hethol. 

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi llongyfarch Ms Truss yn dilyn y cyhoeddiad, gan ddatgan bod angen "gweithio gyda'n gilydd ar frys i daclo'r argyfwng costau byw ac i arbed miliynau rhag y gaeaf caled sydd o'n blaenau."

Dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, bod "heriau mawr o'n blaenau, ond dwi'n gwybod y byddwn ni'n gallu eu goresgyn a symud ymlaen."

Dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, bod  "amharodrwydd y Prif Weinidog newydd i ymrwymo i weithredu ar yr argyfwng costau byw wedi gwneud niwed parhaol i hygrededd llywodraeth y DU wrth iddi wynebu argyfwng trychinebus."

Fe wnaeth Arweinydd y Blaid Lafur, Keir Starmer, longyfarch y prif weinidog newydd, ond dywedodd "ar ôl 12 mlynedd o'r Ceidwadwyr, y cwbl sydd yna i ddangos ydi cyflogau isel, costau uchel ac argyfwng costau byw ."

Ychwanegodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds AS, "ein bod ni am fynd am weld rhagor o'r llanast a ddigwyddodd o dan arweinyddiaeth Boris Johnson.

"O beidio delio â'r argyfwng costau byw i adael i fusnesau bach a chanolig wynebu'r gaeaf ar ben ei hun i fethu delio â'r argyfwng hinsawdd, mae’r Ceidwadwyr wedi dangos nad oes ots ganddyn nhw, nad oes cynllun ganddyn nhw, ac eu bod nhw wedi methu ein gwlad.”

Mwy i ddilyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.