Y myfyrwyr nyrsio cyntaf yn dechrau ym Mhrifysgol Aberystwyth
Fe fydd myfyrwyr nyrsio cyntaf Prifysgol Aberystwyth yn dechrau ar eu hastudiaethau ddydd Llun.
Mae hyn yn dilyn dyfarnu cytundeb i Brifysgol Aberystwyth gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru er mwyn hyfforddi nyrsys fydd yn gallu trin oedolion a chleifion sydd ag iechyd meddwl.
Fe fydd gan y myfyrwyr gyfle i ddilyn hyd at hanner eu cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg.
Addysg a Gwella Iechyd Cymru yw awdurdod iechyd o fewn y gwasanaeth iechyd sydd yn ymwneud gydag addysg a hyfforddiant yn y sector.
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Elizabeth Treasure: “Mae’n hyfryd croesawu ein myfyrwyr nyrsio cyntaf yma. Mae cefnogi anghenion cymunedol, mewn cydweithrediad agos â’n rhanddeiliaid allweddol, yn ganolog i’n cenhadaeth sifig; ac mae dechrau addysg nyrsio yma yn rhan bwysig o hynny.
“Mae’n hwb i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac o fudd o ran recriwtio a chadw nyrsys yn lleol ac yn rhanbarthol. Yn ogystal, mae potensial i ysbrydoli modelau newydd o ddarparu gofal iechyd a fydd o fudd i bawb.
"Bydd ein cynlluniau hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig at wella darpariaeth iechyd meddwl a chyfrwng Cymraeg yn lleol a thu hwnt."
Datblygwyd addysg nyrsio yn y Brifysgol gyda chefnogaeth byrddau iechyd Hywel Dda, Betsi Cadwaladr a Phowys yn ogystal â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr.
Dywedodd Chris Jones, Cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru: “Bydd y myfyrwyr nyrsio hyn yn meddu ar sgiliau a phrofiad i ddiwallu anghenion poblogaethau gwledig; darparu gofal diogel, effeithiol ac o safon; a’u galluogi i gychwyn ar gyfleoedd gyrfa lwyddiannus a boddhaus yma yng Nghymru.
“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n holl brifysgolion yng Nghymru, y gwasanaeth iechyd gwladol, gofal sylfaenol a chymunedol a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu a gwella’r ffyrdd newydd a modern hyn o ddarparu addysg i sicrhau’r gweithlu sy’n diwallu anghenion gofal iechyd pobl Cymru.”