Oedi hirach cyn lansio Artemis

04/09/2022
S4C

Fe fydd oedi hirach cyn medru lansio roced Artemis o amgylch y lleuad.

Bu’n rhaid gohirio ymgais am yr eildro i lansio ddydd Sadwrn oherwydd tanwydd yn gollwng.

Dywedodd NASA fod peirianwyr yn mynd i archwilio’r roced ac fe fydd yn rhaid gwneud unrhyw atgyweirio mewn gweithdy yn hytrach nag yn y man lansio.

Gallai hyn olygu wythnosau o oedi cyn medru lansio.

Bu’n rhaid gohirio ymgais ddydd Llun oherwydd problem gydag un o injans y roced.

Pwrpas y daith yw gosod sylfaen er mwyn anfon gofodwyr i’r lleuad am y tro cyntaf mewn 50 mlynedd.

Fe fydd Artemis 1 yn anfon capsiwl o’r enw Orion o amgylch y lleuad.

Dywedodd NASA na fyddan nhw yn mentro i lansio yn ystod y ffenest bresennol sy’n dod i ben ddydd Mawrth.

LLun: NASA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.