Menywod Cymru gam yn nes at gemau ail-gyfle Cwpan y Byd ar ôl curo Groeg
Mae menywod Cymru gam yn nes at gyrraedd gemau ail-gyfle Cwpan y Byd yn dilyn buddugoliaeth o 0-1 yn erbyn Groeg nos Wener.
Er nad oedd y perfformiad yn un ysbrydoledig, mae'r canlyniad yn golygu y bydd gêm gyfartal yn erbyn Slofenia yn ddigon i sicrhau lle Cymru yn y gemau ail-gyfle.
Carrie Jones sgoriodd unig gôl y gêm yn yr hanner cyntaf, gan rwydo am y tro gyntaf dros ei gwlad.
Er i Gymru reoli'r gêm am gyfnodau hir, fe wnaeth amddiffyn Groeg yn aros yn gadarn.
Ond er gwaethaf y gêm ddiflas, y canlyniad bar y diwedd fydd yn bwysig i garfan Gemma Grainger wrth iddynt anelu i gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf erioed.
Fe fydd y crysau cochion nawr yn wynebu Slofenia o flaen y dorf fwyaf erioed i wylio menywod Cymru yng Nghaerdydd nos Fawrth.
Llun: Asiantaeth Huw Evans