Teyrnged i dad fu farw mewn digwyddiad mewn cae yn Sir Fynwy
02/09/2022
Heddlu.
Mae teulu dyn 58 oed fu farw mewn digwyddiad mewn cae yn Sir Fynwy yr wythnos diwethaf wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Colin Williams yn y fan a'r lle wedi digwyddiad mewn cae ger Ffordd Kymin ym Mynwy ar 25 Awst.
Dywedodd ei deulu mewn teyrnged ei fod yn ddyn "twymgalon ac yn arwr".
"Roedd Colin yn ddyn twymgalon oedd yn croesawu pawb gyda breichiau agored. Roedd e'n ffeindio ffordd i wneud cysylltiad gyda chi, dim ots pwy oeddech chi," meddai'r teulu.
Ychwanegodd ei deulu ei fod yn "gallu gwneud y gorau o bob sefyllfa oherwydd ei natur, ei garedigrwydd diderfyn a'i feddwl chwim.
"Bydd yn arwr i'w deulu a'i ffrindiau am byth."