'Angen rhagor o gymorth ar gartrefi plant Wcráin yn ystod y gaeaf'

'Angen rhagor o gymorth ar gartrefi plant Wcráin yn ystod y gaeaf'
Mae elusen o ardal Wrecsam wedi rhybuddio y bydd angen rhagor o gymorth ar gartref plant Magala yn Chernivtsi, Wcráin yn ystod tymor y gaeaf.
Cyn y rhyfel, 10 plentyn oedd yn cael gofal yng nghartref plant Magala. Ond erbyn hyn mae yna 52, ac mae'r staff dan bwysau aruthrol meddai’r elusen Teams 4 U.
Mae Ruth Wyn Williams sy’n nyrs arbenigol o Fangor wedi bod yn gweithio gyda’r cartref yn Wcráin ychydig wythnosau yn ôl.
Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C dywedodd bod angen parhau gyda’r caredigrwydd sydd wedi ei weld ers dechrau’r rhyfel.
“Mae’n anhygoel i ddweud y gwir fod pobl isio cyfrannu. ‘Da ni di gweld y wlad. Mae’r plant yma sydd efo anableddau i gyd yn anweledig mewn ffordd yn y rhyfel.
“Mae pob ceiniog yn cyfri, da ni’n gwirfoddoli wrth fynd yno felly mae pob ceiniog mae pob wedi rhoi yn mynd at adnoddau.
“Da ni’n prynu pethau fel sinciau i olchi dwylo, sebon, gwresogi’r adeilad a chael dillad cynnes i’r plant achos mae gaeaf oer o’i blaen nhw.
“O ran y rhyfel ma’ hi dal yn eithaf saff yn yr ardal, felly da ni yn cynllunio i fynd yn ôl.”
Mae gwaith Ms Williams a’r elusen gyda’r plant sydd mewn angen wedi cyffwrdd sawl calon.
Dydd Iau cafodd siec o £5,000 ei roi i’r elusen ym Mhortmeirion, roedd yn cynnwys a chyfraniadau ariannol gan bobl leol a hefyd yr arian sydd wedi’i thaflu i’r fynnon yno.
Dywedodd Llio Wyn sy’n gweithio ym Mhortmeirion bod hi’n braf iawn cael cyfrannu i elusen “mor werthfawr.”
“Ma’ pobl wedi bod yn hael iawn yn taflu arian i’r fynnon yma ac mi oedd o yn braf iawn rhoi'r arian i’r elusen.
“Doedd o ddim yn anodd dewis rhoi'r arian i’r elusen ar ôl gweld y gwaith mae Teams 4 U yn gwneud yn y Wcráin.”
Wrth i’r rhyfel ddwysáu, mae miloedd yn ffoi o hyd – ond tydi’r plant yng nghartref Magala methu gadael.