Newyddion S4C

Beirniadu penderfyniad Radio Cymru i ddod â rhaglen gelf Stiwdio i ben

Golwg 360 01/09/2022
Nia Roberts

Mae nifer ym myd y celfyddydau wedi beirniadu penderfyniad BBC Radio Cymru i ddod â'r rhaglen Stiwdio i ben. 

Bydd Stiwdio, yr unig raglen sydd wedi'i neilltuo i drafod y celfyddydau yng Nghymru, yn dod i ben yn yr hydref. 

Dywedodd yr actores Sharon Morgan wrth Golwg360 fod y penderfyniad yn un "gwarthus." 

Ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd cyflwynydd y rhaglen, Nia Roberts, ei bod wedi'i "synnu" a'i "siomi" gan y penderfyniad. 

Daw'r penderfyniad ymhlith sawl newid i amserlen rhaglenni Radio Cymru, sydd hefyd wedi derbyn beirniadaeth am roi diwedd ar raglen Geraint Lloyd.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru wrth Golwg360 y bydd y ddarpariaeth gelfyddydol ar yr orsaf yn cael ei ehangu yn y dyfodol.

Darllenwch fwy yma. 

Llun: BBC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.