Arestio dyn ar amheuaeth o dreisio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd
31/08/2022
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio dyn wrth iddyn nhw ymchwilio i achos o dreisio yn ystod Gŵyl y Dyn Gwyrdd eleni.
Cafodd y dyn ei arestio wedi i’r heddlu ryddhau 'e-lun' o ddyn roedden nhw'n dymuno siarad ag ef fel rhan o'u hymchwiliadau i'r digwyddiad yn ystod yr ŵyl ym Mannau Brycheiniog.
Mae’r dyn wedi’i ryddhau ar fechnïaeth tra bod yr heddlu yn aros am ymholiadau pellach.
Dyw’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall ar hyn o bryd mewn cysylltiad â'r digwyddiad.