Rapiwr o Fryste wedi ei drywanu i farwolaeth yng Ngharnifal Notting Hill
Cyhoeddodd Heddlu Llundain mai Takayo Nembhard, rapiwr 21 oed o Fryste oedd y dyn a gafodd ei drywanu i farwolaeth yng Ngharnifal Notting Hill.
Mae ymchwiliad i lofruddiaeth wedi dechrau ar ôl iddo gael ei drywanu yn Ladbroke Grove, o dan drosffordd Westway, tua 20:00 ddydd Llun.
Cafodd Takayo Nembhard ei dynnu drwy dorfeydd sylweddol a chael cymorth cyntaf brys tan i barafeddygon gyrraedd, cyn cael ei gludo i ysbyty yng ngorllewin Llundain lle bu farw yn ddiweddarach.
Roedd yn cael ei adnabod fel TKorStretch ac roedd un o'i ganeuon wedi ei chwarae dros 300,000 o weithiau ar Spotify, ac roedd ganddo bron i 11,000 o wrandawyr yn fisol.
Dywedodd Dr Alison Heydari, rheolwr plismona lleol: “Mae’r awyrgylch dros y ddau ddiwrnod diwethaf wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan ac o natur dda fel y dylai’r Carnifal fod.
“Yn anffodus, nos Lun fe welon ni nifer o ddigwyddiadau treisgar ac mae dyn 21 oed wedi marw.
Ychwanegodd y bydd ditectifs yn dilyn pob trywydd holi posib i ddo o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol.
“Roedd cannoedd o bobl yn yr ardal gyfagos pan ddigwyddodd hyn," meddai.
“Byddwn yn annog unrhyw un a welodd unrhyw beth, sydd â ffilm fideo neu sydd ag unrhyw wybodaeth arall a allai gynorthwyo swyddogion, i gysylltu â ni.”
Nos Lun fe gyhoeddodd Heddlu'r Met fod gorchymyn Adran 60 mewn grym o fewn ardal Carnifal Notting Hill - sy'n rhoi pwerau stopio a chwilio i swyddogion – roedd mewn grym tan 01:00 ddydd Mawrth.
Llun: Instagram