Gwrthwynebwyr nesaf Caernarfon a'r Seintiau Newydd yng Nghwpan Her yr Alban
29/08/2022
Mae clybiau pêl-droed Caernarfon a'r Seintiau Newydd wedi darganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn nhrydedd rownd Cwpan Her yr Alban.
Bydd Caernarfon yn chwarae yn erbyn Clyde a bydd y Seintiau Newydd yn herio Dundee.
Mae'r gemau yn cael eu chwarae ar benwythnos 24 a 25 Medi.
Mae'r Seintiau yn gymwys i chwarae yn y gystadleuaeth gan eu bod wedi ennill Uwch Gynghrair Cymru y llynedd, tra bod Caernarfon wedi curo'r Fflint mewn gêm ail-gyfle.
Llwyddodd Cei Connah i gyrraedd y rownd derfynol yn 2019, cyn colli i Ross County.