Gwaith adeiladu gwesty moethus yn Abersoch i ddechrau yn y flwyddyn newydd

Fe fydd y gwaith o adeiladu gwesty a fflatiau gwerth £30m yn Abersoch ym Mhen Llŷn yn dechrau ym mis Ionawr medd datblygwyr y cynllun, a'r disgwyl yw y bydd yn cael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2024.
Bydd y gwesty yn cynnwys 42 ystafell, bwyty, campfa a phwll nofio, a bydd 18 fflat preifat yn cael eu hadeiladu hefyd.
Mae'r datblygiad yn cael ei adeiladu ar hen safle Gwesty'r Whitehouse, ac mae cynlluniau ar gyfer y gwesty newydd wedi bodoli ers 2014.
Mae Providence Gate Group Holdings, sydd yn berchen ar y safle, yn dweud eu bod yn awyddus i gyflogi gweithwyr lleol yn ystod y broses adeiladu ac unwaith bydd y gwesty wedi ei gwblhau.
Darllenwch ragor yma.
Llun: Calderpeel Architechts