Gohirio taith roced o amgylch y lleuad oherwydd problemau technegol
Gohirio taith roced o amgylch y lleuad oherwydd problemau technegol
Mae asiantaeth ofod NASA wedi gohirio taith roced o amgylch y lleuad oherwydd problemau technegol.
Roedd y roced Artemis 1 i fod i adael canolfan Kennedy yn nhalaith Florida, UDA ddydd Llun, gan anfon capsiwl o'r enw Orion o amgylch y lleuad.
Pwrpas y daith oedd gosod y sylfaen er mwyn anfon gofodwyr i'r lleuad am y tro cyntaf mewn 50 mlynedd.
Ond daeth peirianwyr o hyd i broblem gydag un o injans y roced, ac felly gwnaed y penderfyniad i ohirio'r daith am y tro.
Roedd ansicrwydd rai oriau ynghynt wedi i grac ymddangos mewn tanc a oedd yn cysylltu'r tanciau hylif hydrogen a hylif ocsigen.
Er i beirianwyr drwsio darn lle'r oedd hydrogen yn gollwng, dywedodd cyfarwyddwr y prosiect, Charlie Blackwell-Thompson, bod yn rhaid gohirio'r daith.
The launch of #Artemis I is no longer happening today as teams work through an issue with an engine bleed. Teams will continue to gather data, and we will keep you posted on the timing of the next launch attempt. https://t.co/tQ0lp6Ruhv pic.twitter.com/u6Uiim2mom
— NASA (@NASA) August 29, 2022
Y cyfle nesaf i lansio'r daith fydd dydd Gwener 2 Medi, ond does dim penderfyniad eto ynghylch yr ymgais nesaf.
Er gwaethaf y problemau technegol, yn ôl yr Athro Geraint Jones, sy'n athro gwyddoniaeth planedau yng Ngholeg Prifysgol Llundain, mae yna "rhesymau da" i wyddonwyr i ddychwelyd i'r lleuad.
"Mae’r creigiau ar y lleuad yn hen a gallu dysgu llawer i ni am hanes y ddaear a phlanedau eraill hefyd."
“Mae NASA ac asiantaethau eraill yn gweld bod ein dyfodol ni yn y gofod. Pan mae astronauts yn mynd i fyny mae gan y cyhoedd a pobl ifanc a disgyblion llawer mwy o ddiddordeb am be’ sy’n mynd ymlaen na phan da ni’n danfon robots ac ati heb bobl arnyn nhw i’r planedau eraill ac ati.
“Y bwriad yw dychwelyd i’r lleuad ac aros yno fwy neu lai yn barhaol. Fydd na neb yn aros yno ar y dechrau un am flynyddoedd ond y bwriad ydy cymryd camau bychain i adeiladu fatha pentref bychan yn y degawdau nesa fel pan da ni’n dychwelyd i’r lleuad bydd pobl yn aros yna am amser hir.”