
Heddlu yn ymchwilio i achos o dreisio yng ngŵyl y Dyn Gwyrdd
Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth wrth iddynt ymchwilio i achos o dreisio yn ystod Gŵyl y Dyn Gwyrdd dros y penwythnos diwethaf.
Mae'r llu wedi rhyddhau 'e-lun' o ddyn maent yn dymuno siarad ag ef fel rhan o'u hymchwiliadau i'r digwyddiad yn ystod yr ŵyl yn y Bannau Brycheiniog.
Dywedodd yr heddlu fod yr ymosodiad wedi digwydd ym mhabell Chai Wallahs yr ŵyl yn ystod oriau man fore Sul.

Yn ôl yr heddlu, mae'r dyn sydd o ddiddordeb iddyn nhw, yn ei 20'au canol, 5’ 11” o daldra, corff maint canolig, gwallt brown golau a thalcen mawr.
Mae'r llu wedi apelio i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw yn syth gan ddefnyddio'r cyfeirnod DPP/0316/21/08/2022/02/C.