
Cymuned yn agosáu at brynu siop hanesyddol yn Sir Benfro
Cymuned yn agosáu at brynu siop hanesyddol yn Sir Benfro
Mae cymuned yn Sir Benfro yn agosáu at wireddu ei huchelgais o brynu siop hanesyddol.
Mae siop Havards yn Nhrefdraeth wedi bod ar agor ers 1872.
Yn ôl Ros McGarry, sydd yn Gynghorydd Tref yn Nhrefdraeth, mae Havards yn “siop pwysig iawn” i’r dref.
“Fel ‘ych chi’n gallu gweld, mae’n gwerthu pob math o pethe sydd angenrheidiol i’r pobol sydd yn byw ‘ma a hefyd y pobol sydd yn ymweld â Trefdraeth a pobol gyda’r ail tai ‘ma, neu tai sy’n gael eu rhentu mas,” meddai.
“Bydde bwrlwm y dre’ wedi mynd os ‘yn ni’n colli siop Havards dwi’n credu.”
Hyd yma, mae dros £360,000 wedi ei fuddsoddi gan fwy na 260 o aelodau.
Mae’r targed gwreiddiol o £330,000 eisoes wedi ei gyrraedd ac mae’r pwyllgor nawr yn gobeithio sicrhau £107,400 cyn diwedd mis Awst er mwyn sicrhau stoc.

Llun: Havards
‘Siopa fwy lleol’
Mae Cris Tomos yn gweithio i PLANED, corff sydd yn cefnogi prosiectau cymunedol ar draws y gorllewin fel yr ymdrech i brynu Havards.
Yn ôl Mr Tomos, mae mwy o gymunedau yn penderfynu dechrau mentrau cymunedol erbyn hyn.
“Wel, fi’n credu ma’ mwy a mwy o gymunedau nawr yn gweld bod modd cadw asedau yn fyw yn y gymuned trwy’u prynu nhw,” meddai.
“Felly, na, fi’n gobeitho bod hynny nawr yn adlewyrchu bo ni’n dechre edrych ar siopau Cymreig ac yn bwrw ati wedyn i’w hachub.”
Mae’n dweud fod mwy o gymunedau wedi dod i werthfawrogi busnesau lleol yn ystod y pandemig.
“Dwi’n credu yn bendant dros y pandemig, wedd pobol yn siopa fwy lleol,” meddai.
“Wedd y cigydd a’r siopau llysiau a ffrwythau yn cludo bwyd at bobol bregus. Felly fi’n credu bod pobol yn gwerthfawrogi hynny ac yn gweld nawr bo nhw yn bwysig.
“Hefyd yn arbennig o ran fel ma’ costau bywyd yn mynd lan, costau bwyd a pobol i drafeili, costau tanwydd. Felly i gael siop lleol, mae’n bwysig iawn i ni gadw y rhai hanesyddol i fynd.”

‘Ei gweld yn parhau’
Ar hyn o bryd, mae’r siop yn nwylo Bryce a Sonnie Barrett.
Dywedodd Mr Barrett fod diddordeb y gymuned mewn prynu’r siop yn galonogol iddo ef a’i wraig.
“Mae’n gwneud i ni deimlo’n dda iawn i deimlo ein bod wedi creu siop mae’r gymuned ei hun yn teimlo ei bod am gynnal,” meddai.
“Yn amlwg mae’n golygu bod gennym ni’r gymysgedd o gynnyrch yn gywir, y prisiau’n gywir ac mae’n dda i feddwl y bydden nhw am ei gweld yn parhau.”
Dywed Cris Tomos ei bod hi’n bosib i bobl ar draws Cymru i edrych ar gyfleoedd o fewn eu cymunedau eu hun i fuddsoddi mewn mentrau cymunedol.
Dywedodd: “Fi’n credu bod pob pentref yn gorffo’ edrych ar beth sy’ gyda nhw yn eu cymuned. Os ma’ nhw’n colli rhwbeth pwysig, ma’ ‘na gyfle wedyn i edrych ar os ma’r capel yn cau, o’s modd defnyddio’r capel ar gyfer rhyw adnodd cymunedol?
“Tai. Ma’ ymddiriedolaeth tai yn rhwbeth sydd yn dod yn fwy i’r amlwg nawr lle ma’ pobol yn gallu adeiladu tai i bobl lleol, ym mherchen pobol lleol.
“Felly, na ma’ ishe ni edrych ar y gymuned yn cryfhau gyda’r hyn sy’n bosib.”