Cyhuddo dyn o lofruddio Rico Burton, cefnder y bocsiwr Tyson Fury

Mae dyn 21 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio Rico Burton, cefnder y bocsiwr proffesiynol Tyson Fury, yn Altrincham ddydd Sul.
Mae Liam O'Prey hefyd wedi ei gyhuddo o ymosod ar fachgen 17 oed a gafodd anafiadau sydd wedi "newid ei fywyd".
Cafodd y ddau eu trywanu tu allan i far yn ystod oriau man bore Sul.
Bu farw Rico Burton, oedd yn 31 oed, yn yr ysbyty yn ddiweddarach.
Wedi'r digwyddiad fe ddywedodd Tyson Fury ar y cyfryngau cymdeithasol bod marwolaeth ei gefnder yn "ddisynnwyr" a bod angen dedfrydau llymach ar gyfer troseddau cyllyll.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Heddlu Manceinion