Yr heddlu'n cyhoeddi enw merch 9 oed a gafodd ei saethu'n farw yn Lerpwl

23/08/2022

Yr heddlu'n cyhoeddi enw merch 9 oed a gafodd ei saethu'n farw yn Lerpwl

Mewn datganiad newyddion brynhawn Mawrth, cyhoeddodd Heddlu Glannau Mersi mai Olivia Pratt-Korbel oedd y ferch fach naw oed a gafodd ei saethu’n farw yn Lerpwl nos Lun.

Digwyddodd y saethu yn ardal Dovecot tua 22.00 nos Lun. Cafodd Olivia ei chludo i Ysbyty Alder Hey ond ofer fu’r ymdrechion i’w hachub. 

Dywedodd y Prif Gwnstabl Serena Kennedy fod "calonnau ei theulu wedi torri."

Pwysleisiodd y prif gwnstabl na ddylai unrhywun un gelu gwybodaeth am yr achos, gan ychwanegu fod Lerpwl yn gymuned lle mae pobl yn dangos trugaredd ac yn dod ynghyd.   

Datgelodd y Ditectif Brif Uwch Arolygydd Mark Kameen fanylion sydd wedi dod i law.

Eglurodd ei fod o’r farn i fam Olivia, Cheryl, agor drws eu cartref ar ôl clywed sŵn gwn yn tanio y tu allan.

Mae’n debyg i ddyn 35 oed weld y drws yn agor cyn rhuthro i mewn i’r tŷ, er gwaethaf ymdrechion mam Olivia i’w rwystro.

Yna, mae’r heddlu'n dweud fod person â gwn yn ei feddiant wedi dilyn y dyn 35 oed i’r cartref gan saethu mam Olivia yn ei garddrwn. Roedd Olivia yn sefyll y tu ôl iddi ac fe gafodd ei saethu yn ei brest yn yr un ymosodiad.

Fe gerddodd y person arfog drwy’r cartref a thanio ddwywaith eto, cyn dianc.

Fe aeth car Audi du i'r safle yn ddiweddarach, a chafodd y dyn 35 oed a oedd wedi rhuthro i mewn i'r cartref, ei gludo i ysbyty yn y cerbyd hwnnw. Mae’r heddlu yn apelio am unrhyw wybodaeth am y car a’r perchennog. Mae'r cerbyd bellach ym meddiant yr heddlu. 

Cafodd mam Olivia, Cheryl ei chludo i ysbyty hefyd.  

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth am y saethwr, gan ei ddisgrifio fel person tenau, 5 trodfedd, 7 modfedd o daldra ac roedd yn gwisgo siaced drwchus ddu, balaclafa a menig du, adeg yr ymosodiad.

Bu farw Olivia Pratt-Korbel wedi cyfres o achosion o saethu yn ardal Lerpwl. Nos Lun hefyd, cafodd dynes ei saethu mewn maes marcio yn Kirkby. Ddydd Sul, bu farw Ashley Dale a oedd yn 28 oed ar ôl iddi gael ei saethu yn ei gardd, yn ardal Old Swan. Mae'r heddlu hefyd yn chwilio am ddau o bobol wedi i ddyn yn ei ugeniau, Sam Rimmer gael ei saethu yn Toxteth ar 16 Awst.

Daw'r achos diweddaraf union 15 mlynedd ers i'r bachgen 11 oed Rhys Jones gael ei saethu'n farw yn Croxteth tra roedd yn dychwelyd adref, ar ol bod yn ymarfer pêl- droed yn 2007. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.