Newyddion S4C

Radio Cymru: Rhai gwrandawyr yn anfodlon wrth i sioe Geraint Lloyd ddod i ben

Newyddion S4C 19/08/2022

Radio Cymru: Rhai gwrandawyr yn anfodlon wrth i sioe Geraint Lloyd ddod i ben

Yn gynharach fis yma, fe gyhoeddodd Radio Cymru y byddai rhaglen Geraint Lloyd yn dod i ben ddechrau mis Hydref, ar ôl 25 mlynedd o ddarlledu ar yr orsaf.

Mae Geraint wedi bod yn cyflwyno’r rhaglen hwyr ar Radio Cymru ers 2012, a chyn hynny bu’n cyflwyno yn y prynhawniau a chyda’r nos.

Roedd y newyddion yn syndod i’w wrandawyr ffyddlon, a bellach, mae deiseb wedi’i chreu i achub y rhaglen, ac mae dros 700 o bobol wedi ei llofnodi hyd yn hyn.

Yn Aberystwyth, roedd gan wrandawyr cyson y rhaglen ddigon i’w ddweud.

“Dwi’n drist iawn bod e'n bennu, achos o'n i'n gwrando arno fe bob nos”, dywedodd Thelma Lewis.

“Gobeithio gewn ni rywbeth tebyg nawr yn ei le fe. Fydd e'n eitha' neis cael rhywbeth i siwto ni yr oedran i ni, yn lle i rai ifanc o hyd”.

“Wel, dwi'n siomedig iawn”, ychwanegodd Megan Jones Roberts.

“Achos dwi'n gwybod bod 'na gynulleidfa dda iawn yn dilyn Geraint. I ni'n teimlo fel 'sa Geraint yn ishte yn ystafell gyda ni, chi'n teimlo'n agos ato fe, a mae'n bwysig i’r gwrandawyr hŷn i gael rhaglen fel 'na yn fin nos”.

Image
Geraint Lloyd
Dechreuodd Geraint Lloyd darlledu ar Radio Cymru yn 1997

'Nabod e erioed'

Mae Glenys Lewis yn gefnogwr brwd arall o sioe Geraint Lloyd, ac yn teimlo cysylltiad agos gyda'r cyflwynydd. 

“Dwi ddim wedi cwrdd â Geraint erioed”, meddai.

“Ond dwi'n teimlo pe bydden i yn ei weld e, bydden i'n gallu mynd 'mlaen ato fe a siarad ag e fel 'sa ni 'di nabod e erioed."

Ynn Nghrymych, mae Jac Vaughan efo arwydd y tu allan sy’n dweud ‘Cefnogwch Y Dyn Tu ôl i’r Llais’.

Mae Jac wedi bod yn gwrando ar Geraint ers ei ddyddiau efo Radio Ceredigion.

“Pam benith Geraint, yn farn i ma' Radio Cymru wedi bennu,” dywedodd.

“Mae’n gallu siarad pob un, mae pob un yr un lefel ag e, mae’n deall y job”.  

Fe ddywedodd Geraint Lloyd wrth Newyddion S4C ei fod wedi’i siomi gan y penderfyniad gan fod y rhaglen yn “rhan o ‘mywyd".

Ond roedd yn diolch am y gefnogaeth – ac yn synnu bod cymaint wedi bod.

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Radio Cymru: “O bryd i’w gilydd mae gorsafoedd radio yn gwneud newidiadau i’r amserlen ac o fis Hydref ymlaen bydd elfennau o amserlen hwyrol Radio Cymru yn newid.

"Bydd mwy o fanylion am yr amserlen ar ei newydd wedd yn cael ei gyhoeddi maes o law.

“Mae’n diolch ni’n fawr i Geraint Lloyd am ei gwmnïaeth gyson i gynifer ohonom gyda’r nos dros y blynyddoedd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.