Newyddion S4C

Tensiynau rhwng llywodraethau'r DU dros annibyniaeth 'ers blynyddoedd’

ITV Cymru 06/08/2022

Tensiynau rhwng llywodraethau'r DU dros annibyniaeth 'ers blynyddoedd’

Mae Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, wedi dweud bod o’n agored i gael sgwrs am annibyniaeth ond bod “tensiynau” rhwng llywodraeth y Deyrnas Unedig, yr Alban, a’r Senedd “ers blynyddoedd.”

Fe ddaeth ei sylwadau wrth i fwy o bobl alw am annibyniaeth i Gymru ar faes yr Eisteddfod yn Nhregaron. 

Dywedodd y gwleidydd wrth ITV Cymru: “Dwi’n barod i drafod unrhyw beth gydag unrhyw un yn yr Eisteddfod. Wrth gwrs dw’i ddim yn mynd i gytuno gyda phopeth. Ond mae pob ochr yn gallu dod at eu gilydd i drafod pethau mewn ffordd gwrtais.” 

Ychwanegodd yr aelod seneddol Ceidwadol dros Drefynwy: “Mae’r drws wedi bod ar agor trwy’r amser i Mark Drakeford ac aelodau eraill Llywodraeth Cymru, a fi’n hapus iawn i weithio gyda nhw ar bethau fel bargeniau twf, levelling up funds a phethau fel ‘na. Mae’n hynod bwysig i gael parch, ac mae’n gweithio yn y ddwy ffordd.”

Mae dyfodol Cymru wedi dod yn bwnc llosg yn ddiweddar ers i fudiadau’r ymgyrch dros annibyniaeth alw am yr hawl i Senedd Cymru gynnal refferendwm ar ddyfodol y wlad.

'Amser gwneud mwy na thrafod'

Mae’r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd wedi dweud bod angen “grym i daclo’n problemau ein hunain” wrth drafod annibyniaeth:

“Dwi’n credu bod hi’n amser i ni wneud mwy na thrafod, ddylen ni weithredu. Ac er mwyn i ni weithredu, mae’n rhaid ni gael y grym i’n dwylo ni, a dyna beth mae annibyniaeth yn ei olygu.

“Dylen ni ddim gorfod mynd i Lundain i ofyn os gawn ni’r hawl i benderfynu. Dylai’r hawl fod yma.

“Dw’i yn teimlo fel bod Cymru ar ddibyn symud ymlaen i edrych ar ôl hi’i hun o’r diwedd. Ac mae rhywbeth yn codi, a ma’ deimlad o uno yn digwydd.”

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon y byddai refferendwm annibyniaeth arall yn cael ei chynnal yno yn yr Hydref. 

Mae’r Archdderwydd yn credu y gall Gymru ddilyn yn yr un modd.

“Mae yn gam mawr, does dim ddwywaith am y peth, ond dwi’n meddwl bod gennym ni’r hyder a’r gallu, ac mae gynnom ni’r arweinwyr bellach fedra fynd a ni i greu gwlad lawer iawn gwell er mwyn y bobl, ac er mwyn y byd yn ddiwedd,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.