Brech y mwncïod: Yr UDA yn datgan argyfwng iechyd cyhoeddus

Reuters 05/08/2022
bRECH Y MWNCIOD

Mae llywodraeth yr UDA wedi datgan bod brech y mwncïod yn argyfwng iechyd cyhoeddus yn dilyn cynnydd yn nifer yr achosion yn y wlad.

Bydd y cyhoeddiad yn cyflymu dosbarthu brechlynnau, triniaethau ac adnoddau ffederal i fynd i’r afael â’r feirws.

Daw hyn lai na phythefnos ar ôl i Sefydliad Iechyd y Byd ddatgan bod yr achosion o frech y mwncïod yn argyfwng iechyd byd-eang.

Mae dros 6,000 o achosion yn yr UDA yn ôl swyddogion iechyd.

Mae tua chwarter yr achosion wedi ymddangos yn nhalaith Efrog Newydd.

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.