Ystyried Eisteddfod 'hyblyg' arlein i ddenu mwy o bobl i'r Brifwyl
Ystyried Eisteddfod 'hyblyg' arlein i ddenu mwy o bobl i'r Brifwyl
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn ystyried cynnal Prifwyl 'hyblyg' yn y dyfodol, a fydd yn galluogi pobl i fwynhau'r maes arlein.
Daw hyn wrth i'r Eisteddfod lansio partneriaeth ddydd Iau gyda'r parc gwyddoniaeth M-Sparc.
Fel rhan o'r bartneriaeth, bydd M-Sparc yn cydweithio gyda'r Eisteddfod Genedlaethol er mwyn datblygu'r ŵyl ar gyfer y dyfodol.
Yn ôl prif weithredwr M-Sparc, Pryderi ap Rhisiart, mae'r datblygiad yma yn cynnwys cynnal Prifwyl 'hybrid', lle mae digwyddiadau'r maes ar gael ar y we.
Yn wahanol i wylio'r cystadlu ar y teledu, fe fyddai Eisteddfod hyblyg yn cael ei hyrwyddo gan blatfform Haia, sydd yn ceisio ail-greu digwyddiadau ar lein fel eu bod yn hygyrch i bawb.
"Mae pobl yn gallu mwynhau wrth gwrs y cynnwys gwych sydd ar y teledu ar hyn o bryd," meddai Pryderi.
"Ond mae'n eitha linear, ti'n derbyn be'n ti'n gael."
"Pan ti'n mynd yn hybrid ti'n gallu mynd o un stondin i'r llall, o'r un llwyfan i'r llall ar y platfform a mynd dwi eisiau mynd i hwnna dwi eisiau gweld y llall."
Ychwanegodd Pryderi y gallai Eisteddfod hybrid ddod â phobl i'r digwyddiad nad ydynt yn arfer mynychu'r Brifwyl.
Dywedodd y gallai hyn fod o fudd i hybu diwylliant Cymru, trwy wneud y Brifwyl yn agored i gynulleidfaoedd o bob cwr o'r byd.
"Allwn ddarparu 'Steddfod ar y we lle mae pobl sydd methu dod yma yn gallu cael mynediad iddo fo," meddai.
"Falle pobl sydd yn dioddef o iechyd meddwl ac anxieties neu anhawsterau symund neu Gymry alltud hefyd sydd methu mwynhau'r 'Steddfod.
"Does na ddim limit wedyn, fe fyddwn yn fyd-eang."