Newyddion S4C

Gruffydd Siôn Ywain yn cipio Medal Ddrama'r Eisteddfod Genedlaethol

drama

Gruffydd Siôn Ywain yw enillydd Medal Ddrama Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni.

Cyflwynwyd y Fedal Ddrama am ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd. 

Mae Gruffydd yn dod o Ddolgellau'n wreiddiol, ac yn dilyn ei lefel A treuliodd gyfnod yn Ghana yn dysgu.

Symudodd i Goleg Chelsea Llundain i astudio dylunio a chyfathrebu ac mae wedi byw yn Llundain ers 15 mlynedd erbyn hyn. 

Mae’n gweithio fel Cyfarwyddwr Creadigol gyda'r BBC.

Y beirniaid eleni oedd Janet Aethwy, Sharon Morgan a Sera Moore Williams.

Image
Janet Aethwy
Sera Moore Williams a Sharon Morgan yn gwrando ar Janet Aethwy'n traddodi'r feirniadaeth

Dywedodd Janet Aethwy wrth draddodi ar ran ei chyd-feirniaid: “Daeth pymtheg ymgais i law a braf nodi fod yna ystod o botensial yn y dramâu… hoffem annog pawb fu’n cystadlu i barhau i sgwennu ar gyfer y theatr yng Nghymru - a hoffem hefyd annog cwmnïau theatr yng Nghymru i barhau i gynnig cyfleoedd i ddramodwyr i ddysgu eu crefft."

O ran y ddrama fuddugol, dywedodd: “Dyma stori afaelgar wedi ei saernïo’n gelfydd. Mae’n ddrama hyderus a chrefftus sy’n portreadu perthynas cwpwl gwrywaidd sy’n chwilio am fam fenthyg er mwyn creu teulu, a’u perthynas hwy gyda ffrind benywaidd. 

“Mae’r themâu yn gyfredol a dadleuol a pherthnasol i gynulleidfa heddiw (ac) mae’r cymeriadau yn gwbl gredadwy, yn gelfydd a chrwn.

"Mae’r ddeialog yn ffraeth ac yn emosiynol ac yn llifo’n wych. Mae’r dramodydd yn defnyddio ei gymeriadau i wthio’r plot yn ei flaen yn araf a phwyllog ac mae sicrwydd y bwriad wrth adeiladu’r stori yn dal ein sylw wrth i ni fuddsoddi yn nhynged y cymeriadau.” 

Mae Gruffydd Siôn Ywain yn derbyn Y Fedal Ddrama er cof am Eiryth ac Urien Wiliam, yn rhoddedig gan eu plant a £750 (Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli). 

Cyflwynwyd rhan o’r gwaith buddugol yn Seremoni’r Fedal Ddrama gyda chefnogaeth Cronfa Goffa JO Roberts. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.