Dafydd Êl: 'Annibyniaeth ydy'r unig opsiwn i Gymru'

03/08/2022
Dafydd Elis-Thomas

Mae'r cyn weinidog yn Llywodraeth Cymru, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi dweud mai annibyniaeth ydi'r unig ddewis i Gymru.

Roedd Dafydd Elis-Thomas yn rhan o banel o siaradwyr ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru ddydd Mercher, a phan ofynnodd cyflwynydd y rhaglen, Bethan Rhys Roberts wrth y gwleidydd, os mai annibyniaeth oedd y ffordd ymlaen i Gymru, fe ymatebodd drwy ddweud: "Does dim dewis arall i'w gael erbyn hyn,"

Fe ddaeth y drafodaeth yn sgil creu comisiwn newydd sy'n edrych ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru yn sgil brexit a newidiadau posib i'r Alban a Gogledd Iwerddon.

Roedd y comisiwn yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ar Faes yr Eisteddfod ddydd Mercher.

Fe aeth Dafydd Elis-Thomas ymlaen i egluro fod "angen i Gymru ymateb i beth sy'n digwydd yn Yr Alban", wrth i wleidyddion yr SNP ddechrau ymgyrchu ar gynnal refferendwm arall ar annibyniaeth yn y wlad.

"Os ydi'r Alban yn mynd am annibyniaeth, mae'n rhaid i Gymru fynd am y fath o annibyniaeth sy'n briodol i ni.

"Does ddim rhaid iddo fod yr un peth a sy'n digwydd yn Yr Alban, ond mae'n rhaid i'r peth gael ei gytuno gan pobl Cymru."

Mae un o gyd-gadeiryddion y Comisiwn, cyn-Archesgob Caergaint, Yr Athro Rowan Williams wedi dweud "fod yn rhaid i Cymru fod yn barod am newid, a pheidio bod ar y droed ôl."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.