Maes B yn dangos ochr 'cŵl' y Gymraeg

Maes B yn dangos ochr 'cŵl' y Gymraeg

Mae Maes B yn dangos i bobl ifanc bod ffyrdd gwahanol o fwynhau trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ôl un o drefnwyr yr ŵyl. 

Dechreuodd yr ŵyl gerddorol i bobl ifanc yn y Brifwyl nos Fawrth, wrth i ieuenctid o bob cwr o Gymru ymgynnull ar y maes yn Nhregaron am bedwar diwrnod o gerddoriaeth fyw. 

Yn ôl Guto Brychan, sydd wedi bod yn trefnu'r ŵyl ers 20 mlynedd, mae Maes B yn chwarae rôl bwysig o ddangos ochr "cŵl" y Gymraeg i bobl ifanc. 

"Dwi'n meddwl bod e'n y profiad cyntaf lot o bobl yn cael o fynd i ŵyl gerddorol," meddai. 

"Mae fe'n grêt bod mynd i ŵyl gerddorol, sydd yn rhan annatod o fod yn berson ifanc erbyn hyn, taw profiad trwy gyfrwng yn Gymraeg yw hi." 

Fel pob digwyddiad mawr, cafodd Maes B ei ohirio dros y ddwy flynedd diwethaf oherwydd y pandemig. 

Ond bu rhaid i'r ŵyl yn 2019 yn Llanrwst hefyd gorffen yn gynnar oherwydd tywydd gwael. 

Gŵyl Tregaron, felly, bydd cyfle cyntaf llond llaw o bobl ifanc i brofi'r hwyl o Maes B. 

Mae'r ŵyl eleni hefyd yn nodi cam ymlaen i Maes B, gyda dewis o dri llwyfan ar gyfer ymwelwyr. 

Pwrpas y llwyfannau ychwanegol yw arddangos mathau newydd o gerddoriaeth Cymraeg fel hip-hop a cherddoriaeth electronig. 

Yn ôl Guto Brychan, mae'n allweddol i Maes B datblygu ochr yn ochr gyda cherddoriaeth Cymraeg er mwyn hybu'r iaith i gynulleidfa ifanc. 

"Un o brif swyddogaethau diweddar Maes B: Gwnewch popeth yng Nghymraeg," meddai. 

"Hyd yn oed gwylio bandiau a chael tipyn o hwyl." 

"Mae e'n neud i bobl sylweddoli bod 'na fwy nag un haenen i'r berthynas rhyngddyn nhw a'r Gymraeg a gweld bod e'n berthnasol iawn iddyn nhw hefyd." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.