Ysgrifennydd Cymru'n beirniadu cynllun Llywodraeth Cymru i ganiatáu codi trethi ar ail gartref

Ysgrifennydd Cymru'n beirniadu cynllun Llywodraeth Cymru i ganiatáu codi trethi ar ail gartref
Mae Ysgrifennydd Cymru, Robert Buckland A.S, wedi beirniadu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ganiatáu codi trethi ar berchnogion ail gartrefi.
Mewn cyfweliad gyda phrif gyflwynydd Newyddion S4C, Bethan Rhys Roberts, dywedodd Mr Buckland bod penderfyniad diweddar Llywodraeth Cymru i roi'r hawl i awdurdodau lleol i gynyddu premiymau treth gyngor at hyd at 300% o'r gyfradd arferol fel "cynnydd niweidiol" sydd yn "llawdrwm" a gallai ddifrodi'r economi.
Mae Llywodraeth Lafur Bae Caerdydd wedi dod dan bwysau cynyddol i reoli niferoedd ail gartrefi mewn rhannau o'r wlad ar ol cyfres o brotestiadau.
Ym mis Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai awdurdodau lleol yn gallu cynyddu premiymau treth gyngor ar ail gartrefi a thai gweigion tymor hir i hyd at 300% o'r gyfradd arferol. Bydd y polisi yn dod yn weithredol ym mis Ebrill 2023.
Dywed y llywodraeth bod modd i awdurdodau lleol deilwra’r pwerau newydd i ystyried yr amgylchiadau yn eu hardaloedd gwahanol.
Ond ar Faes yr Eisteddfod ddydd Llun, roedd Mr Buckland, sydd a chyfrifoldeb dros Gymru yng nghabinet llyowdraeth San Steffan, yn feirniadol o'r polisi.
Dywedodd: "Rwy'n poeni am hynny. Dwi'n credu y gallai yrru nifer o bobl sydd wedi cadw cysylltiad a Chymru am resymau hanesyddol neu am eu bod yn adnabod y wlad oddi yma. Byddai unrhyw berson rhesymol yn cyfri'r rheiny yn bobl sydd yn caru'r wlad ac am fod yn rhan ohoni.
"Fy ngofid yw, gyda'r math yma o gynnydd niweidiol, ry'ch chi'n mynd i yrru pobl i ffwrdd, gorfodi gwerthiant eiddo, achosi cwymp mewn prisiau tai. Dw'i ddim yn siwr mai ymateb llawdrwm fel hyn yw'r ffordd iawn i ddelio a rhannau gwledig Cymru.
Ychwanegodd Mr Buckland ei fo yn credu "ei fod e'n achosi problemau a phoen mewn llefydd fel Sir Benfro, lle mae twristiaeth yn rhan mor bwysig o'r economi."
"Dwi'n clywed y dadleuon, dwi'n eu parchu nhw, dwi'n deall y tensiynau, ond weithiau mae mesurau fel hyn yn gallu cael effaith wahanol i'r hyn oedd wedi ei fwriadu."
'Niwed ffug' i'r economi
Nododd Mr Buckland, a gafodd ei apwyntio i gabinet Boris Johnson fel Ysgrifennydd Cymru yn gynharach y mis hwn, ei fod hefyd yn pryderu am gapio niferoedd ail gartrefi yng Nghymru - rhan o gytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth Lafur a grŵp Plaid Cymru yn y Senedd.
"Dwi'n credu ei bod hi'n demtasiwn i mi ddweud y dylai fod uchafswm. Dwi'n gwybod y bydd llawer o bobl leol yn teimlo bod pobl yn methu fforddio prynu tŷ yn eu cymdogaeth a bod cenedlaethau o bobl o'r un teulu yn methu byw drws nesaf i'w gilydd, ond dwi'n credu y gallai hynny greu niwed ffug i'r economi leol.
"Mae twristiaeth yn rhan o wead gorllewin Cymru yn fy marn i. Mae'n rhaid i ni daro'r balans cywir.
"Mae gan bob un ohonom - p'run ai ydyn ni'n byw yma'n barhaol neu yn berchen ail gartref, gyfrifoldeb at yr economi a'r gymuned leol.
"Fe ddylen ni ymddiried yn synnwyr da pobl yn y ffordd maen nhw'n defnyddio'u cartrefi ac yn caniatau i'w cartrefu gael eu defnyddio gan eraill yn y gymuned leol - Air bnb neu beth bynnag arall allai hynny fod; mae pob math o ffyrdd gall tai gael eu defnyddio yn hytrach na bod yn wag."
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni’n credu bod gan bawb yr hawl i gartref fforddiadwy, addas i’w brynu neu ei rentu yn eu cymuned eu hunain, fel eu bod yn gallu byw a gweithio'n lleol.
"Rydyn ni wedi ymrwymo i gymryd camau radical ar unwaith gan ddefnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threth i fynd i'r afael â'r anghyfiawnderau yn y farchnad dai ar hyn o bryd, gan gynnwys yr effaith negyddol y gall ail gartrefi a thai anfforddiadwy ei chael.
"Mae’r cynnydd yn ôl disgresiwn i bremiymau treth gyngor yn rhan o becyn cydgysylltiedig o gynigion i fynd i'r afael â'r problemau hyn. Caiff awdurdodau lleol deilwra’r pwerau hyn i ystyried yr amgylchiadau yn eu gwahanol ardaloedd."