Y chwiban olaf ar Glwb Pêl-droed Dinas Bangor?
Y chwiban olaf ar Glwb Pêl-droed Dinas Bangor?
Mae Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi derbyn rhybudd swyddogol y bydd yn cael ei orfodi i ddirwyn i ben mewn deufis, os nad yw swyddogion yn darparu cyfrifon llawn i Dŷ'r Cwmnïau.
Fe dderbyniodd cwmni Bangor City Football Club Ltd rybudd y gallai gael ei ddileu o restr cwmnïau’r DU yr wythnos diwethaf, os na fydd dogfennau’n cael eu darparu yn yr wythnosau nesaf.
Tŷ'r Cwmnïau yw’r corff swyddogol sydd yn rheoleiddio cwmnïau’r DU, ac mae’n orfodol i gwmnïau ddarparu cyfrifon llawn yn flynyddol.
Roedd Clwb Pêl-droed Dinas Bangor i fod i ddarparu eu cyfrifon diweddaraf erbyn 30 Medi y llynedd.
Gan nad yw’r cyfrifon wedi eu cyflenwi, mae’r clwb wedi derbyn rhybudd ‘dileu’n orfodol’ o’r rhestr cwmnïau.
Mae rhybudd o’r fath yn cael ei gyhoeddi pan fod Tŷ'r Cwmnïau’n credu nad yw cwmni bellach yn masnachu neu’n weithredol.
Ym mis Chwefror, fe gyhoeddodd y clwb eu bod yn gadael cynghrair JD y Gogledd am weddill y tymor.
Roedd y clwb wedi derbyn rhybudd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i dalu dirwyon os oeddynt am i’r Gymdeithas godi’r gwaharddiad oedd yn eu rhwystro rhag chwarae.
Roedd y clwb eisoes wedi cael eu hatal rhag chwarae gemau ym mhrif gynghrair genedlaethol Cymru'r tymor yma, ar ôl iddyn nhw fethu â gwneud cais ar gyfer trwydded i chwarae.
'Canolfan bêl-droed reit bwysig yn hanes Cymru'
Fe gafodd Clwb Pêl-droed Bangor 1876 ei sefydlu yn 2019 gan gyn-gefnogwyr yn dilyn pryderon am sefyllfa ariannol Clwb Pêl-droed Dinas Bangor.
Dywedodd ysgrifennydd CPD Bangor 1876, Dafydd Hughes, mai'r pryder mwyaf i'w clwb nhw ydy "bod yna adnodd pêl-droed mor anhygoel â Nantporth sydd erbyn hyn ddim yn cael ei ddefnyddio na chwaith wedi cael ei drwyddedu ar gyfer cael ei ddefnyddio fwy na gan clybiau ar lawr gwlad."
Mae diffyg academi yn ardal Bangor ac Ynys Môn hefyd yn bryderus i Mr Hughes ar gyfer y genhedlaeth nesaf o bêl-droedwyr.
"Yn yr hen ddyddia, pan oedd CPD Dinas Bangor yn glwb llewyrchus, mi oedd yna academi yna a dyna un o'r petha pwysicaf sydd 'na.
"Erbyn hyn, toes 'na ddim academi ym Mangor, sydd yn ganolfan pêl-droed reit bwysig yng nghyd-destun hanes Cymru ac yn ddaearyddol."
Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Bangor am ymateb.