S4C yn comisiynu cyfres Gogglebox yn Gymraeg
Mae S4C wedi cyhoeddi ei bod yn y broses o gomisiynu cyfres Gogglebox drwy gyfrwng y Gymraeg.
Teitl y gyfres newydd fydd Gogglebocs Cymru.
Mae'r gyfres boblogaidd wedi ei darlledu ar Channel 4 ers 2013, ac fe gafodd y deunawfed cyfres ei darlledu eleni.
Y bwriad yw darlledu'r gyfres newydd ar ddiwedd Hydref 2022, cyn cyfres ddiweddaraf Channel 4.
Dywedodd S4C y bydd angen i'r castio adlewyrchu'r Gymru fodern yn ei chyfanrwydd, ac fe fydd y gyfres yn rhan o ymgyrch penblwydd S4C yn 40 oed.
Fel rhan o'r broses dendro ar gyfer y gyfres newydd, bydd S4C hefyd yn croesawu syniadau ychwanegol i ehangu'r cyrhaeddiad, yn enwedig yn aml-lwyfan ac yn ddigidol.
Dywedodd Prif Swyddog Cynnwys S4C, LLinos Griffin-Williams: "Rwyf wrth fy modd bod Channel 4, am y tro cyntaf, wedi gwneud eithriad gydag un o'u fformatau mwyaf gwerthfawr, drwy gytuno i ryddhau Gogglebox yn y DU yn unig i S4C.
"Fel dau ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus, sydd â pherthynas waith agos a chydweithredol, rydym yn falch iawn o gael ei hymddiriedaeth â brand mor bwysig."