Streiciau trên: 'Teithiau hanfodol yn unig'
Mae teithwyr ar draws y wlad yn wynebu diwrnod arall o drafferthion ar y rheilffyrdd gyda llai o wasanaethau yn cael eu darparu yng Nghymru hyd at fore Sul, yn sgil anghydfod diwydiannol.
Mae gyrwyr trên sy’n aelodau o undeb Aslef, ac yn gweithio i saith o gwmnïau ar draws y wlad, ar streic am 24 awr yn sgil anghydfod dros gyflogau.
Dyma’r streic ddiweddaraf mewn cyfres o weithredu diwydiannol, wedi i tua 40,000 o weithwyr rheilffordd o undeb yr RMT fynd ar streic ddydd Mercher.
Mae disgwyl i'r gwasanaeth ar Brif Linell De Cymru rhwng Abertawe a Chasnewydd fod yn brysur iawn oherwydd nad yw Great Western Railway yn darparu unrhyw wasanaeth rhwng Caerdydd ac Abertawe, yn ogystal â gwasanaeth cyfyngedig rhwng Caerdydd a Chasnewydd.
Mae Trafnidiaeth Cymru wrdi rhybuddio y gallai'r streic achosi newidiadau a chanslo gwasanaethau ar fyr rybudd.
Llun: Trafnidiaeth Cymru