Yr Eisteddfod 'heb godi prisiau mynediad' mewn ymateb i'r argyfwng costau byw
Yr Eisteddfod 'heb godi prisiau mynediad' mewn ymateb i'r argyfwng costau byw
Mae Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Betsan Moses, wedi dweud nad ydy'r Brifwyl wedi cynyddu prisiau tocynnau dyddiol er mwyn sicrhau bod y "mwyafrif yn gallu ceisio dod i'r 'Steddfod" yn sgil yr argyfwng costau byw.
Pris tocyn dydd i fynychu'r Eisteddfod ydy £20, ac fe wnaeth yr argyfwng costau byw ddylanwadu ar benderfyniad yr Eisteddfod i beidio â chynyddu'r prisiau.
Dywedodd Betsan Moses wrth Newyddion S4C bod hynny "er mwyn sicrhau bod y mwyafrif yn gallu ceisio dod i'r 'Steddfod oherwydd ma' 'na nifer o wyliau wedi bod yn codi eu prisiau yn sylweddol er mwyn mynd i'r afael â'r costau ychwanegol.
"Y'n ni'n credu bod e'n hollbwysig bo' ni'n rhoi cyfleoedd i bawb i allu profi'r 'Steddfod a felly ma' peidio mynd dros yr £20, Ma hi'n flwyddyn anodd a ma' 'ny wedi bod yn flaenoriaeth i sicrhau bod cyn mwyed â phosib yn gallu dod i'r maes."
Yn ôl Ms Moses, roedd y pandemig yn "storm berffaith" wrth i'r Eisteddfod geisio delio ag oblygiadau Brexit yn ogystal.
"O'dd y diwydiant yn ymwybodol iawn y bydd 'na newidiade oherwydd Brexit ond wrth gwrs hefyd, yn dilyn y pandemig, fe nath mwyafrif o'r bobl o'dd yn gweithio yn y diwydiant fynd yn lawrydd ac felly wrth gwrs roedd nifer wedi gorfod arallgyfeirio ac nid pawb sydd wedi dod nôl."
'Tîm bychan iawn yn creu gwyrthie'
Yn sgil y pandemig, roedd yn rhaid i'r Eisteddfod ddiswyddo bron i hanner ei gweithlu.
"Y flaenoriaeth ar ôl yr Eisteddfod 'ma fydd edrych ar beth yw'r strwythur ar gyfer y dyfodol, beth sydd angen yn ei le ar gyfer gwireddum Ma'i 'di bod yn flwyddyn heriol, 'y'n ni wedi prynu fewn cymorth dros dro a ma' 'na dîm bychan iawn yn creu gwyrthie fan hyn ar gyfer gwireddu'r 'Steddfod," meddai.
Er bod yr ŵyl yn ddibynnol ar noddwyr, yn ôl Ms Moses, mae'n rhaid sicrhau bod yr Eisteddfod yn hunangynhaliol hefyd.
"Ar ddiwedd y dydd, busnes yw e felly y'n ni yn ddibynnol iawn ar y gât, ar noddwyr, ar gyfleoedd felly ac felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod ni'n creu gŵyl sy'n arwain ac ar flaen y gad o ran cynnwys, ond hefyd, ei bod hi'n gallu talu am ei hun."
'Profiadau unigryw ar eu stepen drws'
Dywedodd y Prif Weithredwr mai yr hyn sy'n fanteisiol am beidio cael un safle parhaol i'r Eisteddfod ydy'r "cyfleoedd i bobl brofi'r diwylliant a'r iaith.
"Y ‘Steddfod ydy’r priosect cymunedol mwyaf yng Nghymru ac felly wrth gwrs, o deithio, ma’n golygu bod ‘na gannoedd ar filoedd yn gallu cymryd rhan am ddwy flynedd yn arwain at yr ŵyl.
"Dyna beth yw’r flaenoriaeth sef sicrhau bod pobl yn cael cyfleoedd i glywed a defnyddio ac ymarfer y Gymraeg a chael phrofiadau unigryw ar eu stepen drws."
Roedd yn rhaid i gigs Maes B nos Wener a nos Sadwrn yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst gael eu canslo yn sgil y tywydd, ac yn ôl Ms Moses, mae gan y Brifwyl gynlluniau ar waith pe bai hyn yn digwydd yr wythnos nesaf.
"Mi oedd ein isadeiladedd ni yn gallu gwrthsefyll gwyntoedd a phob dim ond wrth gwrs nid pob pabell unigol sy’n gallu, felly penderfyniad ar gyfer llesiant unigolion odd hynny.
"Mae gennym ni strategaeth o ran mae pob un o’n strwythurau ni wedi cael eu gwirio yn erbyn gwynt a glaw a phob dim a strategaeth o ran fel y’n ni’n edrych ar ôl y tiroedd os gewn ni wyntoedd neu stormydd ond y gobaith yw y bydd yr haul yn tywynnu ar Dregaron.”
Llun: Eisteddfod Genedlaethol