
Cynulleidfa Maes B yn 'haeddu gŵyl sbesial'
Cynulleidfa Maes B yn 'haeddu gŵyl sbesial'
Wrth i'r torfeydd ymgynnull ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, mae pobl ifanc Cymru yn edrych ymlaen at wythnos o fwynhau cerddoriaeth fyw yn ystod yr ŵyl.
Ar ôl saib hir yn sgil y pandemig, fe fydd Maes B yn dychwelyd yr wythnos hon i arddangos y gorau o gerddoriaeth Gymraeg.
Mae'r pedair noson o gigiau yn dechrau ddydd Mercher ac yn cynnwys perfformiadau gan rai o'r enwau mwyaf yn y sîn cerddoriaeth Gymraeg fel Adwaith, Gwilym a Swnami.
Dyma fydd y tro cyntaf i'r ŵyl cael ei chynnal yn llawn ers 2018.
Cafodd Maes B ei ohirio ynghyd a'r Eisteddfod Genedlaethol yn 2020 a 2021 oherwydd y pandemig, ac fe gafodd yr ŵyl yn Llanrwst yn 2019 ei gohirio ar ôl deuddydd oherwydd tywydd gwael.
Yn ôl un o drefnwyr yr ŵyl, Elan Evans, maent yn gobeithio y bydd yr ŵyl eleni yn un sydd yn werth yr holl aros.
"Mae'r production yn fwy, mae 'na fwy o artistiaid, mae 'na fwy o fandiau, mae 'na fwy o DJs," meddai.
"A fi'n meddwl bod cynulleidfa Maes B yn haeddu hwnna, achos nhw wedi colli mas ar gymaint yn ddiweddar."
'Gwyl sbesial'
Ar ôl cymaint o amser heb ŵyl Maes B, mae Elan a gweddill y trefnwyr wedi gwneud rhai newidiadau i gymharu â blynyddoedd blaenorol.
Eleni, fe fydd tri llwyfan ar y maes er mwyn arddangos amrywiaeth eang o fathau o gerddoriaeth yn y Gymraeg, fel hip-hop a cherddoriaeth electronig.

Yn ôl Elan, sydd hefyd yn hyrwyddwr cerddoriaeth Cymraeg gyda Chlwb Ifor Bach, mae'n bwysig i Maes B arddangos yr artistiaid yma a datblygu'r sîn ymhellach.
"Mae fe mor bwysig bod Maes B yn dangos ac yn cynrychioli wir representation o beth yw cerddoriaeth Cymraeg ar hyn o bryd.
"Ni wedi gweld twf enfawr mewn cerddoriaeth electronig, artistiaid unigol, hip-hop Cymraeg ac mae hwn yn beth i ddathlu."
Yn ogystal ag amrywiaeth o gerddoriaeth gwahanol, mae Maes B hefyd yn ceisio arddangos amrywiaeth gwell o leisiau ar y llwyfannau.
Adwaith sydd yn chwarae yn y prif slot eiconig ar nos Sadwrn, ac yn ymuno gyda sawl perfformiwr benywaidd fel Chroma, Tara Bandito ac Eädyth.
"Da ni'n hybu fwy o ferched i ddod mewn i'r sîn cerddoriaeth," dywedodd Elan.
"Fi'n mor falch bod menywod ifanc sydd yn mynd i fod yn mynd i Maes B eleni yn mynd i allu edrych ar lwyfannau Maes B a bod fel 'Fi'n gweld fi yna."
Ond ar ben yr holl datblygiadau eleni, mae Elan yn gobeithio y bydd pobl ifanc yn medru mwynhau digwyddiadau Maes B unwaith eto.
"Mae e bron a bod yn right of passage i unrhwy ifanc yng Nghymru," meddai.
"Mae'n braf nawr bod ni'n gallu agor ein drysau ni a fi jyst wir yn gobeithio naeth pobl ddod a chael gwyl rili da a sbesial."