CPD Abertawe i stopio 'cymryd y ben-glin' cyn dechrau eu gemau
Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cyhoeddi na fydd eu chwaraewyr yn "cymryd y ben-glin" ar ddechrau gemau o hyn allan.
Mae'n symbol o gefnogaeth i ymgyrch "Black Lives Matter", mudiad sy'n codi ymwybyddiaeth o hiliaeth systemig a ddaeth i amlygrwydd yn dilyn marwolaeth George Floyd ym Minneapolis.
Dywed y clwb nad oedd yn benderfyniad hawdd a'u bod yn parhau i fod o'r farn nad oes gan "wahaniaethu o unrhyw fath le mewn pêl-droed na chymdeithas".
Ychwanegodd y clwb fod y penderfyniad yn un a gafodd ei wneud "ar y cyd" ar drothwy gemau tymor 2022-23.
Mae chwaraewyr y clwb wedi cymryd y ben-glin cyn pob gêm ers i bêl-droed ddychwelyd ym mis Mehefin 2020 yn dilyn dechrau pandemig Covid-19.
Pe bai unrhyw wrthwynebwyr yn cymryd y ben-glin cyn gemau, dywed y clwb y bydd chwaraewyr yn sefyll mewn rhes ac yn cymeradwyo.
Maen nhw'n honni eu bod am weithio tuag at fod yn "rym er newid cadarnhaol, sylweddol".
Llun: Asiantaeth Huw Evans