Newyddion S4C

Cyfnod poeth eithafol diweddar yn 'annhebygol iawn' heb effaith dynol ar newid hinsawdd

Traeth Ynys y Bari

Mae'n "annhebygol iawn" y byddai'r DU wedi profi'r cyfnod o dywydd poeth eithafol wythnos diwethaf heb effaith newid hinsawdd dynol, yn ôl adroddiad newydd. 

Yn ystod y deuddydd o dywydd poeth ar 18 a 19 Mehefin, cafodd y tymheredd uchaf erioed ei gofnodi yn y DU. 

Cododd y tymheredd i 40.3 gradd Celsius yn Coningsby yn Swydd Lincoln, 2.6 gradd yn uwch i gymharu â'r record flaenorol. 

Cafodd y tymheredd uchaf ar gofnod yng Nghymru hefyd ei gofnodi ym Mhenarlâg ar 18 Gorffennaf, gyda 37.1 gradd yn cael ei gofnodi yno.

Yn ôl adroddiad gan World Weather Attribution, mae'n annhebygol y byddai'r tymereddau eithafol yma wedi digwydd heb effaith newid hinsawdd dynol. 

Dywed yr adroddiad fod cynhesu byd eang sydd wedi'i achosi gan weithgareddau dynol wedi gwneud y tywydd poeth eithafol 10 gwaith yn fwy tebygol o ddigwydd. 

Mae'r adroddiad hefyd yn rhybuddio mai pobl ddifreintiedig sydd yn dioddef yr effeithiau gwaethaf o'r tywydd eithafol yma. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.