Perchennog tir Eisteddfod: 'Maen nhw wedi gadael y gymuned i lawr'

Perchennog tir Eisteddfod: 'Maen nhw wedi gadael y gymuned i lawr'
Mae perchennog tir y Brifwyl yn Nhregaron, Aled Lewis, yn dweud nad yw’r cynigion diweddar ar gyfer tocynnau am ddim yn mynd yn ddigon pell.
Nos Fawrth fe wnaeth yr Eisteddfod Genedlaethol gyhoeddi fod modd i blant dan 12 oed gael mynediad am ddim ar benwythnos cyntaf yr ŵyl.
Ydych chi'n byw yng Ngheredigion? Oes gennych chi blentyn o dan 12 oed? Gallwch hawlio tocyn am ddim i'ch plentyn i ddod i'r Eisteddfod am ddiwrnod dros y penwythnos! Manylion hawlio isod 🔽 @CSCeredigion pic.twitter.com/etr4rB6B5Q
— eisteddfod (@eisteddfod) July 26, 2022
Fe wnaeth Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Elin Jones ymddiheurio ar Facebook yr un noson am ‘wylltio braidd’, trwy alw rhai pobl wnaeth ymgeisio ar gyfer tocynnau am ddim drwy gynllun Hwyl o Haf yn ‘farrus’, ac mae’r neges erbyn hyn wedi’i dileu.
Mewn ymateb i’r cynnig diweddaraf gan yr Eisteddfod, ac i ymddiheuriad Elin Jones, dywedodd Mr Lewis: “Maen nhw wedi gadael y gymuned i lawr yn ofnadwy.”
“Ni dal yn yr un man, oherwydd so hwn ‘di helpu fy sefyllfa i, na sawl teulu arall yng Ngheredigion,” meddai.
Nid yw'r cyhoeddiad yn berthnasol i sefyllfa Mr Lewis a’i deulu, gan fod ei feibion yn rhy hen i fod yn gymwys am y tocynnau am ddim.
‘Ddim eisiau codi taliad y tir’
Dywedodd ei fod yn teimlo nad yw gofyn am docynnau am ddim am yr wythnos i’w blant yn ormod i ofyn o feddwl ei fod wedi rhentu dros 100 erw o dir i’r Eisteddfod.
“Mae pob un yn Nhregaron yn meddwl ‘mod i’n mynd i wneud miliwn, hanner miliwn. Mae e’n agosach at filoedd na miliwn,” meddai.
“Pe byddech chi’n delio gyda phwyllgor yr Eisteddfod, fe alla’i ddweud wrthoch chi nawr, fydden nhw ddim yn rhoi ceiniog ecstra i chi.”
“‘Do’n i’m eisiau codiad o daliad, ond dau docyn i’r ddau fab i fynd mewn yn rhad i’r Eisteddfod am yr wythnos. ‘Na gyd dwi wedi gofyn amdano a ‘na, no way’, dwi wedi cael bob tro.”
Os yw plant dan 12 oed y sir yn cyrraedd y fynedfa cyn 11:00 yn ystod y penwythnos cyntaf y brifwyl, does dim angen talu am eu tocyn.
Er hyn, mae Aled Lewis yn dal i deimlo y bydd hi’n anodd i rai teuluoedd yr ardal i fwynhau’r Eisteddfod er gwaethaf y cynnig diweddar.
“Unwaith mae’r plant yma’n mynd i gael ‘Steddfod yn Nhregaron a licen i eu bod nhw’n mynd i fwynhau a’i chofio hi,” meddai.
“Dyw llawer o blant ddim yn mynd i fynd achos - erbyn i’r rhiant fynd a dau o blant, tri o blant a llawer mwy, yn enwedig lle mae costau byw yn codi bob dydd - mae’n mynd allan o afael rhai ohonyn nhw.”
Nid oes gan Aled Lewis unrhyw fwriad o ymweld ȃ’r ŵyl erbyn hyn, oherwydd y gwrthdaro.
Mae ITV Cymru wedi gofyn i’r Eisteddfod am ei ymateb i sylwadau Mr Lewis.