Newyddion S4C

Angen i'r llywodraeth 'symleiddio budd-daliadau' i leddfu effaith costau byw

28/07/2022
Biliau / Costau byw

Mae angen i'r llywodraeth "symleiddio budd-daliadau" er mwyn lleddfu effeithiau'r argyfwng costau byw, yn ôl pwyllgor seneddol.

Mae Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd yn dweud bod y budd-daliadau sydd wedi eu datganoli yn "rhy gymhleth".

Mewn adroddiad newydd sydd wedi ei gyhoeddi ddydd Iau, mae'r pwyllgor yn dadlau y gallai pobl fod "ar eu colled" o ganlyniad.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn bwriadu rhoi mwy o fesurau yn eu lle i gefnogi pobl i wneud y mwyaf o'u hincwm.

Yn ôl y pwyllgor fe ddylai'r llywodraeth gyflwyno "porth un stop" er mwyn i bobl allu ymgeisio am yr holl fudd-daliadau cymwys drwy brawf modd.

Mae yna alwad hefyd i'r llywodraeth ymestyn y meini prawf i fod yn gymwys am rai budd-daliadau i helpu pobl sydd ar incwm is yn ystod yr argyfwng costau byw.

Image
Paul Davies _ Senedd TV
Paul Davies yw Cadeirydd Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd. 
Llun: Senedd TV

Dywed Paul Davies AS, cadeirydd y pwyllgor nad yw cefnogaeth y llywodraeth yn "cyrraedd digon o bobl".

Ychwanegodd Mr Davies: “Mae’r Pwyllgor o’r farn y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei ‘phŵer meddal’ sylweddol i wella telerau ac amodau'r bobl sy’n ennill y cyflogau isaf; er enghraifft, drwy wella tâl salwch gweithwyr gofal cymdeithasol a rhoi cyflog teg i’r bobl sy’n cael eu talu o’r pwrs cyhoeddus.

“Rwy’n arbennig o bryderus am effaith costau cynyddol tanwydd gwresogi. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i weithredu cyn y gaeaf i gefnogi pobl sy’n byw mewn cartrefi gwledig nad ydynt ar y grid.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Byddwn yn parhau i adeiladu ar ein gwaith gwych ar annog budd-daliadau, gan roi mwy o fesurau yn eu lle i gefnogi aelwydydd ar draws Cymru i wneud y mwyaf o'u hincwm.

"Ond, mae annog mwy i dderbyn budd-daliadau lles angen bod yn flaenoriaeth i bawb sydd ynghlwm, nid yn unig Llywodraeth Cymru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.