Eglwys yn gofyn i fenyw 85 oed symud allan o'i 'chartref perffaith' er mwyn ei werthu

Mae menyw 85 oed oedd yn credu y byddai'n byw hyd at ddiwedd ei hoes yn ei chartref "perffaith" yn wynebu gorfod symud allan.
Mae Anne Allsop wedi byw yn ei chartref yn Llanusyllt ers 27 mlynedd.
Mae'r pentref yn Sir Benfro'n gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr, sydd yn cael ei adnabod fel Saundersfoot.
Mae Eglwys Bresbyteraidd Cymru sy'n berchen ar yr eiddo wedi rhoi gwybod i Anne Allsop bod angen yr eiddo yn ôl arnynt ar sail dim bai erbyn 21 Gorffennaf, gan adael Anne a'i mab, Steve, yn rhwystredig iawn.
Dywedodd Anne wrth ITV Wales: "Dywedodd nhw wrthaf i y byddwn i'n byw yno nes i mi farw - dwi'n dal i aros i farw."
Dywedodd Steve fod yr eglwys wedi datgan eu dymuniad i "roi'r eiddo ar y farchnad a'u gwerthu a does dim byd y gallen nhw wneud am y peth."
Ar hyn o bryd, mae Anne yn parhau yn yr eiddo wrth i Gyngor Sir Benfro ddweud fod ganddynt amser penodol i weithio gyda hi i ddod o hyd i gartref newydd.
Ychwanegodd ei mab bod y "rhan fwyaf o eiddo o gwmpas fan hyn yn dai haf. Mae dod o hyd i dai gosod am gyfnod hir yn ofnadwy o anodd.
"Mae'n rhaid meddwl hefyd am ba mor addas ydi'r cartref hefyd. I ddod o hyd i rywbeth sy'n briodol ar gyfer anghenion fy mam - mae hynny yn anodd iawn."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi eu "hymrwymo i weithredu ar unwaith gan ddefnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threthiant i ddelio â'r anghyfiawnder yn y farchnad dai bresennol, gan gynnwys yr effaith negyddol y gall ail dai a thai anfforddiadwy ei gael."
Mae ITV Cymru wedi cysylltu gyda'r eglwys i ofyn am ymateb.