Newyddion S4C

Ben Davies yn arwyddo cytundeb tair blynedd gyda Tottenham Hotspur

25/07/2022
Ben Davies - NS4C

Mae Ben Davies wedi arwyddo cytundeb newydd gyda Tottenham Hotspur tan 2025.

Mae amddiffynnwr Cymru wedi bod gyda'r clwb ers 2014 pan adawodd Abertawe.

Fe orffennodd Spurs yn y pedwerydd safle yn Uwch Gynghrair Lloegr a chymhwyso ar gyfer Cynghrair Pencampwyr UEFA.

Bu'n gapten ar y clwb deirgwaith yn ystod tymor 2021/22.

Nid Davies yw'r unig chwaraewr o Gymru sy'n rhan o'r tîm, gyda Joe Rodon hefyd yn rhan o Tottenham Hotspur.

Llun: CPD Tottenham Hotspur

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.