Newyddion S4C

Myfyrwraig yn 'gwireddu breuddwyd' o achos addysg rithiol

25/07/2022
S4C

Mae menyw o Gaerdydd sydd yn defnyddio cadair olwyn yn rhannol yn dweud bod addysg rithiol y Brifysgol dros y pandemig wedi ei galluogi i wireddu ei breuddwyd.

Wythnos ddiwethaf fe raddiodd Bethanny Handley mewn newyddiaduraeth, llenyddiaeth Saesneg ac ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd. 

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Bethanny y byddai ei llwyddiant wedi bod yn amhosib oni bai am ddysgu ar-lein yn sgil pandemig Covid-19.

“Heb y pandemig a gallu astudio ar-lein yn bendant ni fyddwn wedi graddio, heb sôn am allu ysgrifennu ar yr ochr.

“Roedd cael mynediad at gynnwys ar-lein yn golygu y gallwn astudio yn fy amser fy hun, pan oeddwn yn teimlo yn ddigon da i weithio.

“Roedd y newidiadau dros y pandemig wedi helpu achub myfyrwyr anabl a myfyrwyr â salwch cronig  fel fi, gan wneud addysg uwch yn llawer mwy hygyrch i bawb.”

Er bod y pandemig wedi bod yn gyfnod “ofnadwy o anodd” i fyfyrwyr anabl, mae Bethanny yn credu ei fod hefyd wedi agor drysau i bethau gwell o ran addysg.

“Roedd bod yn fregus yn anodd iawn, ond ers blynyddoedd mae myfyrwyr sydd â salwch cronig ac anabl wedi bod yn gofyn i brifysgolion gynnig yr holl gynnwys ar-lein.

“Ac wrth recordio’r holl ddarlithoedd, mae dewis rhwng addysgu mewn person ac ar-lein, yn y gorffennol doedd hynny ddim yn bosib. Mae’r pandemig wedi dangos i brifysgolion bod modd bod yn hyblyg.”

Image
S4C
Astudiodd Bethanny ym Mhrifysgol Gaerdydd

Mae Bethanny yn credu ei fod yn “anhygoel”sut mae prifysgolion ar draws Cymru a thu hwnt wedi datblygu yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ond mae hi’n ofni na fydd y datblygiad yn parhau.

“Mae agweddau mor hyblyg wedi bod a byddai’n gymaint o drueni anghofio hynny. Mae angen inni rŵan symud ymlaen ac edrych ar sut y gallwn barhau i fodloni graddau mor hyblyg â phosibl, fel y gall cymaint o bobl â phosibl gael mynediad atynt.

“Mae gan gymdeithas lawer o ffordd i fynd cyn y bydd yn hygyrch i bawb ond gall addysg arwain y ffordd.”

Er bod profiad Bethanny wedi bod yn un positif yn y brifysgol mae hi’n annog prifysgolion i wneud mwy ar gyfer myfyrwyr sydd ag anableddau.

Mae dysgu wyneb yn wyneb yn angenrheidiol i bawb o ran yr addysg a’r profiad yn ôl Bethanny, ac mae hi eisiau gweld prifysgolion yn cynnig hynny i bobl ag anableddau.

“Mae angen inni ystyried sut y gallwn wneud campysau prifysgolion yn fwy hygyrch i bawb, yn enwedig i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.

“Ond hefyd gwneud yn siŵr bod y myfyrwyr yn gallu dewis pa un y maent yn dewis neud o ddydd i ddydd beth maen nhw am wneud- yn hytrach na gorfod dewis rhwng bod ar y campws neu ar-lein.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.