Newyddion S4C

Gemau’r Gymanwlad: 'Teimlad arbennig' côr swyddogol Tîm Cymru

Gemau’r Gymanwlad: 'Teimlad arbennig' côr swyddogol Tîm Cymru

Mae aelodau côr swyddogol tîm Cymru yn dweud ei fod yn "deimlad arbennig" i gael cynrychioli eu gwlad yng Ngemau’r Gymanwlad. 

Fe wnaeth Côr Aelwyd Dyffryn Clwyd ennill y fraint o berfformio ar ddiwrnod cyntaf y gemau yn Birmingham ar ôl dod yn fuddugol mewn cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd eleni. 

Mae'n nodi dechrau llwyddiannus yn hanes y côr, a gafodd ei sefydlu yn 2019. 

Eisteddfod yr Urdd oedd y tro cyntaf i’r côr gystadlu ers ei sefydlu, ac mae'r sylw bellach yn troi at Gemau'r Gymanwlad. 

Dywedodd arweinydd y côr, Ceri Haf Roberts, ei fod yn "fraint" i gael bod yn rhan o'r gemau. 

"Odd o'n hollol annisgwyl achos da ni 'mond newydd sefydlu ac oherwydd Covid da ni heb fod yn canu lot efo’n gilydd," meddai. 

"Mae’n deimlad arbennig cael gwybod ein bod ni yn cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad a gwbod mai ni di'r côr sy’ ‘di cael ei ddewis i wneud hynny, mae’n anrhydedd enfawr."

"Dwi mor falch bod aelodau’r côr yn cael y profiad yma." 

Image
Ceri Haf Roberts
Mae Ceri Haf Roberts yn falch o'r gyfle i berfformio 

Gyda dim ond wythnos i fynd tan dechrau'r gemau, mae'r cyffro wedi dechrau ymysg aelodau'r côr. 

"Mae ’na deimlad arbennig o fod yn rhan o’n côr ni," meddai Leah Thomas. 

"Dwi’n meddwl, oherwydd ’dan ni ’di bod drwy lot yn y tair blynedd ddiwethaf ers i ni sefydlu, mae hynna ’di neud ni’n gryfach fel côr."

Mae’r aelodau'n dal i fethu credu eu bod wedi ennill y fraint i berfformio. 

"Tro cyntaf i ni gystadlu fel côr, a doedden ni’n methu coelio bod ni ’di ennill, deud y gwir," meddai Sïon Eilir. 

"A bod ni’n cael mynd ymlaen i Gemau’r Gymanwlad, ma hynny’n eising ar y gacen byswn i’n ddweud."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.