Newyddion S4C

Joe Biden yn profi’n bositif am Covid-19

Arlywydd Joe Biden

Mae Arlywydd yr America, Joe Biden wedi profi’n bositif am Covid-19.

Dywedodd llefarydd ar ran y Tŷ Gwyn ei fod yn dioddef o symptomau “cymedrol.”

Ychwanegodd fod yr Arlywydd, sy’n 79 oed, wedi bod yn cymryd meddyginiaeth ar gyfer y clefyd.

Fe fydd yn hunan ynysu yn y Tŷ Gwyn ac yn cymryd cyfarfodydd rhithiol wrth barhau gyda’i waith.

Darllenwch fwy yma.

Llun: Twitter/ Y Tŷ Gwyn

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.