Heddlu Japan yn chwilio am fwnci sydd wedi ymosod ar bobl

Mae'r heddlu yn Japan yn chwilio am fwnci gwyllt sydd wedi ymosod ar 10 o bobl o fewn y pythefnos diwethaf, gan gynnwys plant.
Fe ddechreuodd y mwnci ymosod ar bobl yn ardal Ogori o'r Yamaguchi Prefecture yn ne ddwyrain y wlad ar 8 Gorffennaf.
Ers hynny, mae'r mwnci wedi ymlwybro mewn i ddosbarth mewn ysgol gynradd leol a chrafu merch bedair oed ac wedi torri mewn i dŷ a chrafu coes merch 4 oed arall. Fe aeth y mwnci ati i ymosod ar bobl eraill oedd gerllaw'r tŷ.
Mae'r heddlu wedi gosod trapiau i geisio dal y mwnci ac wedi rhybuddio trigolion lleol i gadw eu ffenestri ar gau.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Mark Drumont / Flickr