Newyddion S4C

Saethu yn ysgol Texas: 'Methiannau systematig' gan yr heddlu

Ysgol Gynradd Robb

Roedd yna "fethiannau systematig" yn ymateb yr heddlu i'r ymosodiad ar Ysgol Gynradd Robb yn Uvalde, Texas medd adroddiad. 

Dywedodd yr adroddiad bod yna fai ar bennaeth heddlu'r ysgol a'r heddlu ffederal am beidio ymateb yn gyflym i'r ymosodwr. 

Roedd 400 o swyddogion yr heddlu wedi ymateb i'r digwyddiad, ond cymerodd yr heddlu 77 munud i fynd i mewn i'r ysgol i geisio atal yr ymosodwr. 

Yn y cyfnod hynny, cafodd 19 disgybl a dau athro eu lladd. 

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.