Rhyddhau dyn ar fechnïaeth ar amheuaeth o lofruddio

Mae dyn 47 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 40 oed ar reilffordd ger Prestatyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth.
Cafodd swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydain eu galw i reilffordd ger Clwb Golff Prestatyn am 17:10 ddydd Mercher, 13 Gorffennaf.
Cafodd y dyn ei gyhoeddi'n farw wedi i'r gwasanaethau brys gyrraedd y lleoliad. Roedd gwasanaethau trên yn yr ardal wedi cael eu hatal am gyfnod o dair awr wedi'r digwyddiad.
Mae'r heddlu wedi apelio am dystion gan ofyn i bobl sydd gyda gwybodaeth i anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016 neu alw 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 407 / 13 Gorffennaf.
Darllenwch fwy yma.