Cynnal ymchwiliad llofruddiaeth wedi marwolaeth dyn ar reilffordd ger Prestatyn

North Wales Live 14/07/2022
Rheilffordd Prestatyn

Mae dyn 47 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 40 oed ar reilffordd ger Prestatyn.

Cafodd swyddogion Heddlu Trafnidiaeth Prydain eu galw i reilffordd ger Clwb Golff Prestatyn am 17:10 ddydd Mercher.

Cafodd y dyn ei gyhoeddi'n farw wedi i'r gwasanaethau brys gyrraedd y lleoliad. Roedd gwasanaethau trên yn yr ardal wedi cael eu hatal am gyfnod o dair awr wedi'r digwyddiad.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion gan ofyn i bobl sydd gyda gwybodaeth i anfon neges destun at Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar 61016 neu alw 0800 40 50 40 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 407 / 13 Gorffennaf. 

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.