Cyrff cyhoeddus 'ar gamau gwahanol iawn' wrth gynllunio at ddatgarboneiddio
Mae angen i gyrff cyhoeddus wneud mwy yn eu hymgyrch i ddatgarboneiddio, yn ôl adroddiad newydd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Daeth adolygiad swyddfa Archwilio Cymru i'r casgliad fod cyrff cyhoeddus ar gamau gwahanol iawn o ran datblygu cynlluniau datgarboneiddio.
Roedd traean o'r sefydliadau yn dal i fod yng nghamau cychwynnol datblygu cynllun datgarboneiddio medd yr archwilwyr.
Dywed yr adroddiad fod angen i gyrff cyhoeddus gyflymu'r gwaith o gyrraedd targedau "yng nghanol ansicrwydd amlwg ynghylch a fyddant yn cyflawni'r uchelgais gyfunol i gael allyriadau carbon sero-net erbyn 2030."
Mae rhwystrau gwirioneddol y mae angen i gyrff cyhoeddus fynd i'r afael â nhw yn ôl swyddfa Archwilio Cymru, ac mae angen rhoi datgarboneiddio "wrth wraidd" gweithgareddau cyrff cyhoeddus o ddydd i ddydd.
Dywed yr adroddiad mai "dim ond dau o'r cyrff a ymatebodd i'n galwad am dystiolaeth oedd yn teimlo eu bod wedi asesu'n llawn oblygiadau ariannol cyflawni uchelgais 2030:
"Roedd cyrff cyhoeddus yn glir iawn y bydd angen buddsoddiad sylweddol. Er bod Llywodraeth Cymru wedi darparu rhywfaint o gymorth ariannol ychwanegol, bydd yn rhaid i gyrff cyhoeddus feddwl am sut y gallant ddefnyddio'r cronfeydd presennol mewn ffyrdd gwahanol a rhannu costau ag eraill."
Daeth yr adroddiad i'r casgliad hefyd fod problemau eang o ran capasiti a bylchau sgiliau.
'Angen gwneud mwy'
Dywedodd Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol: "Nid oes dim amheuaeth bod cyrff cyhoeddus yn cymryd newid yn yr hinsawdd o ddifrif, ond mae angen iddyn nhw wneud mwy.
"O ystyried lefel yr ansicrwydd ynghylch a fydd uchelgais gyfunol 2030 yn cael ei chyflawni, dyma'r amser ar gyfer arweinyddiaeth feiddgar. Mae angen i sefydliadau fod yn arloesol, rhannu profiadau o'u llwyddiannau a'u methiannau ac mae angen iddyn nhw roi datgarboneiddio wrth wraidd popeth maen nhw’n ei wneud."
Dywedodd cyrff cyhoeddus wrth yr archwilwyr fod pwysau ar eu hadnoddau i ddarparu gwasanaethau craidd ac nad oes ganddynt y sgiliau arbenigol o reidrwydd i fynd i'r afael â natur gymhleth datgarboneiddio.
Yn ôl yr adroddiad: "Mae angen i gyrff cyhoeddus manteisio ar gyfleoedd i rannu'r wybodaeth, yr arbenigedd a'r capasiti sy'n bodoli yn y sector cyhoeddus yn ogystal â'r sector preifat a'r trydydd sector. Mae angen cydweithredu yn awr yn fwy nag erioed."
Galwodd yr Archwilydd Cyffredinol ar gyrff cyhoeddus i wella eu dealltwriaeth o'u hallyriadau carbon yn gyflym.
Yn yr adroddiad, mae'r Archwilydd Cyffredinol yn gwneud pum argymhelliad i gyrff cyhoeddus:
- Cryfhau arweinyddiaeth a dangos cyfrifoldeb ar y cyd drwy gydweithio effeithiol;
- Egluro cyfeiriad strategol a chynyddu cyflymder gweithredu;
- Mynd i'r afael â'r cyllid sydd ei angen;
- Adnabod bylchau mewn sgiliau a chynyddu gallu; a
- Gwella ansawdd data a monitro i gefnogi penderfyniadau.
Llun: Archwilio Cymru