Pryder dros ddyfodol pysgod wrth i lefelau afonydd ostwng

Pryder dros ddyfodol pysgod wrth i lefelau afonydd ostwng
Mae yna bryder dros ddyfodol poblogaethau pysgod yng Nghymru wrth i lefelau afonydd ostwng yn sgil y tywydd sych.
Mae nifer o ardaloedd ar draws Cymru wedi gweld llai o law o gymharu â'r arfer dros y misoedd diwethaf.
Ar lannau'r Afon Ceirw yn Sir Benfro, dim ond 66% o'r glaw arferol syrthiodd rhwng mis Mawrth a Mehefin.
Mae'r tywydd poeth eithafol diweddar wedi gwaethygu'r sefyllfa, gyda nifer o afonydd yn encilio wrth iddynt sychu..
Er nad yw'r sefyllfa yn ddifrifol iawn ar hyn o bryd, mae yna bryderon dros effaith y newidiadau yn lefelau afonydd ar boblogaethau lleol o bysgod.
Mae Dan Rogers yn bysgotwr o Gilgerran yn Sir Benfro ac yn dweud bod rhaid cadw llygad barcud ar y sefyllfa er lles y pysgod.
"Os nad oes digon o ocsigen yn yr afon, alle di cael mass kill," meddai.
"Dyw hi ddim rhy wael ar y foment, mae hynny bellach lawr y lein.
"Ond mae rhaid i ni gadw llygad i neud siwr bod yr habitat yn iawn i'r pysgod fel bod nhw yn gallu neud ei migration blynyddol."
Yn ôl Martyn Evans o Gyfoeth Naturiol Cymru, gall y tywydd poeth diweddar cael effaith andywol ar boblogaethau pysgod.
"Os ydy'r tymheredd yn codi yn uwch nae rhyw 23 gradd, mae yn mynd i fod yn beryglus, mae posibiliad bod pysgod yn mynd i gael eu lladd - sydd yn beth wael i bobl ac i'r pysgod eu hunain i weld," meddai.