Cefnogwyr Lerpwl wedi derbyn 'bai ar gam' am anhrefn ffeinal Cynghrair Pencampwyr Ewrop

Sky News 13/07/2022
UCL

Mae ymholiad swyddogol yn Ffrainc i  ddiogelwch cefnogwyr ar gyfer rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Ewrop wedi dod i'r casgliad mai cyfres o gamgymeriadau ar bob lefel achosodd yr anhrefn.

Rhoddwyd y bai ar gefnogwyr Lerpwl gan Lywodraeth Ffrainc yn wreiddiol, gan honni bod gan rhai o gefnogwyr Lerpwl docynnau ffug.

Ond mae adroddiad newydd gan Senedd Ffrainc wedi canfod bod yr awdurdodau wedi beio'r cefnogwyr yn annheg.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad yma ar ôl derbyn tystiolaeth gan gynrychiolwyr chefnogwyr o glwb Lerpwl a swyddogion yn Ffrainc.

Dywedodd Laurent Lafon, un o ddau gadeirydd yr ymholiad, bod cyfres o wallau wedi eu gwneud gan yr awdurdodau wrth baratoi ar gyfer y gêm.

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.