Newyddion S4C

Bachgen 16 oed wedi marw ar ôl mynd i drafferthion mewn camlas

ITV News 12/07/2022
Aire and Calder Navigation

Mae bachgen yn ei arddegau wedi marw ar ôl mynd i drafferthion wrth nofio mewn camlas yn Lloegr.

Cafodd corff Alfie McCraw o Wakefield ei ddarganfod brynhawn dydd Llun 11 ar ôl iddo fynd ar goll tra'n nofio yng nghamlas Navigation Aire a Calder.

Dywedodd yr Uwch arolygydd Nick Smart o Heddlu De Efrog: "Roedd hwn yn ddigwyddiad hynod o drist sydd wedi arwain at farwolaeth bachgen sydd newydd orffen ei arholiadau TGAU.

"Rydym yn gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd i ddosbarthu gwybodaeth i ysgolion cyn iddynt orffen am y gwyliau i rybuddio am beryglon nofio dŵr agored. Rydym angen pawb i helpu i ledaenu’r neges yma."

Darllenwch fwy yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.