Myfyrwyr methu talu am fwyd oherwydd cynnydd mewn costau byw
Mae 96% o fyfyrwyr yn torri nôl ar nwyddau a gwasanaethau hanfodol oherwydd costau byw yn ôl arolwg diweddar.
Mae’r arolwg, gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) yn nodi fod myfyrwyr ddim yn gallu fforddio golchi dillad ac yn cael llai o gawodydd er mwyn arbed arian.
Noda'r arolwg fod dros hanner o fyfyrwyr yn torri nôl ar fwyd.
Roedd treuan y myfyrwyr a holwyd yn byw ar lai na £50 y mis ar ôl talu rhent a biliau.
Cafodd yr undeb 3,500 o ymatebion.
Y prif ganfyddiadau yw:
• 42% yn cael eu gorfodi i deithio llai neu fethu cyrraedd campws
• 41% yn esgeuluso eu hiechyd fel methu apwyntiadau deintyddol er mwyn arbed arian
• 20% ddim yn gallu prynu pethau ymolchi a 10% yn methu prynu nwyddau gofal iechyd menywod
Mae’r undeb yn ychwanegu fod nifer cynyddol o fyfyrwyr nawr yn dibynnu ar fanciau bwyd, eu cynilon, cardiau credyd a benthyciadau banc.
Yn ôl yr undeb, mae myfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofal, myfyrwyr anabl, a myfyrwyr o ardaloedd difreintiedig ymhlith y rhai sydd wedi eu heffeithio fwyaf.
Dywedodd llefarydd ar ran yr NUS: “Mae’r cynnydd mewn costau byw wedi gosod myfyrwyr ar y dibyn. Mae hyn yn cael effaith andwyol ar eu hiechyd meddwl ac yn ychwanegu at eu straen a phryder.
“Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i osod pecyn o gymorth mewn lle i fyfyrwyr fel mater o frys."