
Darganfod y gloch olaf o longddrylliad yn Llŷn
Darganfod y gloch olaf o longddrylliad yn Llŷn
Mae un o dair cloch o long wnaeth suddo ger Pen Llŷn yn 1881 wedi cael ei darganfod o'r diwedd.
Roedd gan long y Cyprian dair cloch arni ar y pryd, ac er bod dwy wedi eu darganfod a'u cadw yn yr ardal, roedd lleoliad y drydedd gloch yn parhau yn ddirgelwch tan wythnos diwethaf.
Digwyddodd llongdrylliad y Cyprian ym mis Hydref 1881 ar ôl iddi ddechrau ei thaith o lannau Afon Mersi i Genoa yn Yr Eidal.
Fe gafodd ei dal mewn storm fawr ac erbyn 14 Hydref, roedd hi wedi cyrraedd Bae Caernarfon.

Fe suddodd i'r de orllewin o Borthdinllaen wrth i ddŵr lifo drwy'r llong a bu farw'r capten ynghyd â 18 aelod o'r criw.
Mae Bethan Jones yn awdurdod ar hanes y Cyprian, ac yn byw yn lleol ger lleoliad y llongdrylliad.
Bellach mae'r gloch olaf oddi ar fwrdd y Cyprian yn ei meddiant.
Roedd gan deulu Bethan nifer o eitemau o’r llong yn barod, gan gynnwys platiau a chrochenwaith.
Daeth Bethan i wybod am leoliad y drydedd gloch ar ôl i’w brawd a'i gyfaill ddigwydd cyfarfod gyda deifiwr yn rasys beicio modur TT ar Ynys Manaw yn ddiweddar.

Fe gysylltodd Bethan gyda’r un oedd wedi cadw’r gloch er mwyn gofyn iddo am lun yn unig.
Dywedodd Bethan wrth Newyddion S4C: “Ges i sgwrs ffôn a dim ond ishe llun o’r gloch oeddwn i. Ond pan glywodd yr hanes nath o ddeud dydw i ddim yn gwneud fawr ohoni felly mae fwy o werth i chi ac fe wnaeth postio nôl i mi mewn bocs i mi gael cadw gyda’r llestri a phethau eraill o’r llong.”
Mae cael y gloch yn ôl yn golygu tipyn i Bethan, ei theulu a’r ardal.
“Roedd fy hen daid i yn un o’r criw oedd yn helpu’r morwyr ar y pryd ac mae’r stori wedi ei chario o genhedlaeth i genhedlaeth felly mae cael hon yn ôl yn golygu dipyn i mi,” meddai.
“Y mae’n braf ei bod hi yma yng nghanol y pethau eraill sy’ gyn i.”
Mae Bethan, fel athrawes, yn defnyddio’r eitemau o’r llong er mwyn hybu ymwybyddiaeth disgyblion ysgolion yr ardal am hanes a threftadaeth forwrol Pen Llŷn a llong y Cyprian yn benodol.